Yr Hen Lyfrgell
Bydd 40 o swyddi yn cael eu creu wrth i Ganolfan Gymraeg Yr Hen Lyfrgell agor yng Nghaerdydd ddiwedd mis Ionawr.

Yn ôl datganiad gan y rheolwyr: ‘Mae’r swyddi newydd, sy’n cynnwys hyd at 25 llawn amser ac 18 rhan amser, ar draws ystod o swyddogaethau gan gynnwys staff cegin a gweini, gwasanaeth cwsmeriaid, gofal plant yn ogystal â staff gweinyddol. Bydd hyd at 65 o bobl yn gweithio yn y ganolfan i gyd, gan gynnwys 10 o staff partneriaid fydd yn cael eu hadleoli yno a 15 o weithwyr amgueddfa Stori Caerdydd.’

Bydd Yr Hen Lyfrgell ar agor saith niwrnod yr wythnos ac yn cynnwys bwyty, siop yn gwerthu cynnyrch Cymraeg, Crèche Mudiad Meithrin, gwersi Cymraeg i ddysgwyr, ardal berfformio, cyfleusterau cynadledda, ystafelloedd digwyddiadau ac Amgueddfa Stori Caerdydd.

Prosiect cyffroes

Dywed Arweinydd Cyngor Sir Caerdydd, y Cynghorydd Phil Bale:

“Mae Yr Hen Lyfrgell am fod yn brosiect cyffrous yma yng Nghaerdydd, nid yn unig i drigolion ac i bobl Cymru, ond bydd hefyd yn gweithredu fel atyniad newydd gwych i ymwelwyr yng nghanol y ddinas lle gall pobl ddod a chlywed yr iaith Gymraeg.

“Fel Cyngor un o’n blaenoriaethau yw creu mwy o swyddi a rhai sy’n talu’n well a bydd y cyfleuster newydd yma yn darparu amrywiaeth o gyfleoedd i siaradwyr Cymraeg allu defnyddio’r iaith mewn amgylchedd gwaith.”