Yr Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus, Nick Bennett
Fe fydd agendâu Cyngor Cymuned Cynwyd yn cael eu cyhoeddi’n Gymraeg ac yn Saesneg o hyn ymlaen wedi i adroddiad yr Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus ei feirniadu am weithredu’n uniaith Gymraeg.
Fe wnaeth aelodau o’r Cyngor y penderfyniad mewn cyfarfod neithiwr.
Roedd adroddiad yr Ombwdsmon, Nick Bennett, yn honni bod Cyngor Cynwyd, ger Corwen yn rhoi siaradwyr di-Gymraeg “o dan anfantais” wrth gyhoeddi dogfennau yn y Gymraeg yn unig.
Fe ymchwiliodd Nick Bennett i’r mater wedi iddo gael cwyn gan Karen Rodden yn honni ei bod yn cael “ei heithrio rhag ymwneud â’r Cyngor gan nad yw hi’n siarad Cymraeg.”
“Rydyn ni wedi penderfynu gwrando ar yr Ombwdsmon a rhoi popeth yn yr hysbysfwrdd yn Gymraeg a Saesneg,” meddai Gwen Wyn, cadeirydd y cyngor wrth raglen y Post Cyntaf bore ma.
“Mae’n syml, fel dywedodd o (yr Ombwdsmon) ‘it’s only one piece of paper’, felly mae’n rhaid i ni wneud hynna a chario ‘mlaen a gweithio gyda’n gilydd.”
Adroddiad uniaith yr Ombwdsmon
“Ry’n ni wedi trio bod yn rhesymol”, meddai Alwyn Jones-Parry o’r Cyngor wrth golwg360 yr wythnos ddiwethaf, gan ddweud nad oedden nhw’n barod i dderbyn yr argymhellion yr Ombwdsmon ar unwaith – “oherwydd natur y ffordd y gofynnwyd inni.”
Roedd y Cyngor wedi cael fersiwn uniaith Saesneg o adroddiad yr Ombwdsmon i ddechrau a dywedodd Alwyn Jones-Parry y byddan nhw’n aros am fersiwn Gymraeg cyn ymateb i’r argymhellion.