Ar ôl misoedd o ymgynghori a gwrthwynebiad chwyrn, mae’n ymddangos na fydd cynlluniau i israddio unedau mamolaeth yn nhri o ysbytai’r gogledd yn parhau.

Roedd Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr wedi cynnal ymgynghoriad ynglŷn â symud gwasanaeth famolaeth dan ofal meddygon yn Ysbyty Glan Clwyd ym Modelwyddan i Ysbyty Gwynedd ym Mangor neu Ysbyty Maelor Wrecsam.

Ond mae adroddiad a fydd yn mynd gerbron cyfarfod cyhoeddus y Bwrdd wythnos nesaf yn argymell cadw’r drefn fel y mae.

Cyn cynnal yr ymgynghoriad, bwriad gwreiddiol y Bwrdd oedd israddio’r uned yn Ysbyty Glan Clwyd, gan olygu mai bydwragedd yn hytrach na meddygon fyddai’n gyfrifol am yr uned honno.

Ond yn sgil y penderfyniad daeth gwrthwynebiad chwyrn, gyda phobol leol yn poeni y byddai’r cynlluniau’n rhoi mamau beichiog a babanod mewn perygl os byddai rhywbeth yn mynd o’i le yn ystod yr enedigaeth.

 ‘Gwrando ar bobol’

Yn ôl Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr, mae’r argymhelliad “wedi’i seilio ar ystyriaeth fanwl o’r dystiolaeth a’r adborth a ddaeth i law yn ystod y broses ymgynghori.”

“Mae ystod eang o arbenigwyr hefyd wedi mynegi eu barn broffesiynol ar sut orau i gynnal gwasanaethau diogel,” meddai llefarydd ar ran y Bwrdd.

Dywedodd hefyd fod y Bwrdd wedi “gwrando ar bobol a grwpiau ar draws y gogledd” a’i fod “dal yn ymwybodol o’r teimladau cryf” sydd wedi’u codi gan y mater hwn, ond mai ei “brif gonsyrn” oedd diogelwch cleifion.

Bydd y Bwrdd yn cwrdd ar 8 Rhagfyr a bydd ei benderfyniad yn cael ei gyhoeddi ar yr un diwrnod.

Angen recriwtio rhagor o staff mamolaeth

Mae’r argymhelliad wedi cael ei groesawu gan wleidyddion fu’n gwrthwynebu’r cynlluniau.

“Mae hon yn fuddugoliaeth i synnwyr cyffredin, ac rwy’n falch bod y bwrdd iechyd o’r diwedd wedi gwrando ar bryderon ymgyrchwyr, arbenigwyr a’r cyhoedd oedd yn gwrthwynebu’r cynlluniau,” meddai Aelod Cynulliad Gorllewin Clwyd, Darren Millar.

A chan groesawu’r argymhelliad, fe wnaeth  Aelod Cynulliad y Democratiaid Rhyddfrydol dros Ogledd Cymru, Aled Roberts alw ar y Bwrdd i recriwtio rhagor o staff mamolaeth:

“Mae blynyddoedd o ansicrwydd wedi arwain at brinder staff yn y tair uned,” meddai, “gan arwain at gau unedau 16 o weithiau yn y 12 mis diwethaf,” meddai.

“Mae angen i Betsi nawr recriwtio rhagor o staff er mwyn sicrhau gofal diogel i famau a babanod.”