Mae system newydd o roi organau yn dod i rym heddiw, gan wneud Cymru’r wlad gyntaf yn y DU i gyflwyno system o’r fath.
O heddiw ymlaen, fe fydd pobl dros 18 oed sydd wedi byw yng Nghymru ers dros 12 mis ac sy’n marw yma yn caniatáu i’w horganau gael eu rhoi – oni bai eu bod nhw’n ‘optio allan’ o’r system.
Caiff hyn ei alw yn ‘ganiatâd tybiedig’, ac mae disgwyl i’r newid yn y gyfraith arwain at gynnydd o 25% yn nifer y bobl sy’n rhoi organau.
Mae’r rhain yn cynnwys organau fel arennau, calon, afu, ysgyfaint a phancreas – a gallan nhw fynd i unrhyw le yn y DU.
Gall pobl sydd am roi organau gofrestru i optio i mewn – neu wneud dim sy’n golygu nad ydynt yn gwrthwynebu rhoi organau.
Gall pobl sy’n gwrthwynebu rhoi eu horganau optio allan ar unrhyw adeg.
Mae rhai grwpiau crefyddol wedi beirniadu’r newid, ond mae swyddogion iechyd yn dadlau y bydd yn achub cannoedd o fywydau.
Yn ôl ffigurau diweddar, dim ond 8% o oedolion cymwys yng Nghymru sydd wedi penderfynu optio allan cyn i’r gyfraith newid heddiw.
‘Cam hanesyddol’
“Rydyn ni’n cymryd cam hanesyddol yng Nghymru heddiw, cam a fydd yn achub bywydau,” meddai Mark Drakeford, y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol.
Bu farw 14 o bobl yng Nghymru wrth aros am drawsblaniad y llynedd ac, ar hyn o bryd, mae 224 o bobl ar y rhestr aros am drawsblaniad yng Nghymru, gan gynnwys 8 o blant.
“Mae rhoi organau yn achub bywydau. Dyna’r prif ysgogiad ar gyfer y newid pwysig hwn. Dros yr 20 mlynedd ddiwethaf mae llawer wedi’i gyflawni i wella arferion meddygol ym maes rhoi organau, ond os ydyn ni am weld cynnydd pellach mae angen naid yn y cyfraddau caniatâd, a dyna’r rheswm dros newid y gyfraith,” esboniodd y Gweinidog Iechyd.
Fe ddywedodd ei fod yn gobeithio y bydd y gyfraith yn annog pobl i siarad â’u teuluoedd am roi organau.
Yn ôl arolwg diweddar, mae 69% o bobl Cymru’n ymwybodol o’r newidiadau ynghylch rhoi organau, o gymharu â 63% yn gynharach eleni.
“Rydyn ni wedi gweithio’n ddiflino i roi cyhoeddusrwydd i’r newid a’r dewisiadau sydd gan bobl dan y system newydd,” ychwanegodd.
Yn ôl ffigurau Sefydliad y Galon, mae cyfraddau rhoi organau yn y DU 40% yn is o’i gymharu â gwledydd eraill yn Ewrop sy’n defnyddio’r system optio allan, gan gynnwys Sbaen a Chroatia.
‘Cynllun dadleuol’
Fe ddywedodd Darren Millar AC, Llefarydd Iechyd y Ceidwadwyr Cymreig, fod y cynllun yn “un dadleuol”.
Esboniodd fod miloedd o bobl a oedd wedi cofrestru fel rhoddwyr organau o’r blaen wedi dewis optio allan o’r system newydd.
“Does dim dwywaith nad yw’r newidiadau hyn yn helpu pobl ar draws Cymru i drafod gyda’u hanwyliaid a bod yn fwy ymwybodol o effeithiau cadarnhaol gall rhoi organau ei gael,” meddai Darren Millar.
Ond, y “rhwystr mwyaf yn erbyn cynyddu cyfraddau rhoi yw’r gofal difrifol a nifer y gwelyau sydd ar gael, a does dim arwyddion y bydd hynny’n gwella.”
‘Annog trafodaeth’
Mae Ffederasiwn Cenedlaethol Sefydliad y Merched (FfCSyM-Cymru) wedi croesawu’r gyfraith newydd, ond maen nhw’n galw ar bobl Cymru i barhau i drafod rhoi organau gyda’u hanwyliaid.
Maen nhw wedi sefydlu ymgyrch ar draws Cymru a Lloegr, sef Amser i Siarad am Roi Organau SyM, gan godi ymwybyddiaeth yn eu grwpiau a’u cymunedau lleol.
“Mae angen mynd i’r afael â’r ofnau, y pryderon, a’r camsyniadau am roi organau,” esboniodd Ann Jones, Cadeirydd FfCSyM Cymru.
“Mae gwrthwynebiad unigol i roi, neu wrthwynebiadau ar sail tystiolaeth i roi, yn ddealladwy ac mae angen eu parchu. Ond mae anwybodaeth am roi organau a chaniatâd yn annerbyniol,” ychwanegodd.