E-sigaret
Mae pwyllgor Cynulliad Cenedlaethol Cymru wedi “croesawu” rhai o awgrymiadau Bil Iechyd y Cyhoedd (Cymru), ond wedi methu â chydweld ar faterion eraill sy’n ymwneud ag e-sigarennau.
Fe wnaethon nhw groesawu cynigion y Bil i gyflwyno cynllun trwyddedu ar gyfer busnesau tatŵio, tyllu’r corff, aciwbigo ac electrolysis, a gwaharddiad ar dyllu personol i rai o dan 16 oed.
Maen nhw hefyd o blaid awgrymiadau eraill y Bil, gan gynnwys newid y ffordd y caiff gwasanaethau fferyllol eu cynllunio, a sicrhau bod awdurdodau lleol yn darparu mynediad digonol i doiledau cyhoeddus.
“Mae’r Pwyllgor, yn gyffredinol, o blaid llawer o’r cynigion sydd ym Mil Iechyd y Cyhoedd (Cymru),” meddai David Rees, Cadeirydd y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol.
Ond, ni lwyddodd y pwyllgor i ddod i gytundeb ar y mater o gyfyngu defnydd o e-sigarennau mewn mannau cyhoeddus caeedig.
E-sigarennau
Mae adroddiad pwyllgor y Cynulliad yn amlygu hollt ym marn yr aelodau am faterion yn ymwneud ag e-sigarennau.
Fe ddywedodd Darren Millar AC, llefarydd iechyd y Ceidwadwyr Cymreig, fod yr “adroddiad yn amlygu’r diffyg cytundeb ymhlith aelodau Cynulliad am wahardd e-sigarennau.”
Fe ddywedodd fod y Ceidwadwyr Cymreig yn parhau i wrthwynebu cynlluniau’r Llywodraeth Lafur i gyfyngu ar ddefnydd o e-sigarennau.
“Nid yn unig y mae’n glir bod ganddynt [e-sigarennau] rôl bwysig i’w chwarae wrth gefnogi pobl i roi’r gorau i ysmygu, ond mae’r adroddiad hefyd yn amlygu’r diffyg tystiolaeth i gefnogi y gallan nhw ychwanegu at wneud ysmygu yn rhywbeth normal eto”
Fe fydd Bil Iechyd y Cyhoedd (Cymru) yn cael ei drafod gan Aelodau’r Cynulliad yn ystod y Cyfarfod Llawn ar 8 Rhagfyr 2015.