Ymgasglodd mwy na 250 o bobol ar strydoedd Aberystwyth ddydd Sadwrn i alw ar arweinwyr gwleidyddol i fynd i’r afael â newid hinsawdd.
Roedden nhw ymhlith miloedd o bobol fu’n protestio ledled Ewrop ar drothwy uwchgynhadledd y Cenhedloedd Unedig ym Mharis, sy’n dechrau ddydd Llun.
Dechreuodd gorymdaith ar Rodfa Plascrug am 1 o’r gloch ddydd Sadwrn, gan orffen gyda rali, lle roedd y siaradwyr yn cynnwys cyn-Aelod Seneddol Plaid Cymru, Cynog Dafis a chynrychiolwyr o’r Blaid Werdd.
Mewn datganiad, dywedodd ymgeisydd y Blaid Werdd ar gyfer y Cynulliad, Alice Hooker Stroud: “Rwy’n falch iawn o gael ymuno â mudiad rhyngwladol tros weithredu ynghylch newid hinsawdd mor agos i ’nghartref yn Aberystwyth.
“Mae angen i ni roi pwysau ar wleidyddion i ddod i gytundeb rhesymol ynghylch newid hinsawdd ym Mharis.
“Yn anffodus, dydw i ddim yn llawn gobaith.
“Rwy’n credu bod ein gwleidyddion presennol yn gwrando mwy ar gwmnïau tanwyddau ffosil nag ar eu pobol. Mae angen i hyn newid.”
Ychwanegodd Nicki Wilkins o fudiad Frack Free West Wales: “Roedd Frack Free West Wales yn falch o gael bod yn rhan o’r orymdaith ysbrydoledig drwy Aberystwyth heddiw.
“Mae’n amlwg bod nifer fawr o bobol yng Ngheredigion sydd am fod yn rhan o’r ate bi newid hinsawdd.
“Roedd yr egni a’r ymroddiad gan bawb heddiw’n dangos ein bod ni’n sylweddoli mai yn ein cymunedau y mae’r unig ffordd o amddiffyn cenedlaethau’r dyfodol.”