Mae Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru wedi cael ei feirniadu am beidio ag anfon gohebiaeth yn ddwyieithog ar ôl iddo feirniadu Cyngor Cymuned am weithredu’n uniaith Gymraeg.
Roedd Nick Bennett wedi dweud bod Cyngor Cymuned Cynwyd yn Sir Ddinbych wedi “rhoi siaradwyr di-Gymraeg o dan anfantais” ar ôl iddo dderbyn cwyn gan aelod o’r cyhoedd.
Fe wnaed y gŵyn gan un sy’n aros yn anhysbys ac yn cael ei chyfeirio ati fel ‘Mrs X’. Mae’r gŵyn yn honni bod y Cyngor wedi cyhoeddi hysbysiadau ac agendâu cyfarfodydd yn y Gymraeg yn unig.
“Mae hynny’n camweinyddu a achosodd i Mrs X ddioddef anghyfiawnder,” meddai Nick Bennett, yn ei adroddiad swyddogol.
‘Dim copi Cymraeg’
Ond yn ôl Alwyn Jones Parry, clerc Cyngor Cymuned Cynwyd, roedd adroddiad yr Ombwdsmon i ymddygiad y cyngor dros yr iaith wedi cael ei anfon atyn nhw’n Saesneg yn unig.
“Rydym yn cael ein croeshoelio gan yr Ombwdsmon ond efallai y dylai ystyried ei sefyllfa,” meddai Alwyn Jones Parry wrth The Daily Post.
“Mae’n ein beirniadu ni am beidio ag ysgrifennu geiriau yn Saesneg ond roedd yr adroddiad a anfonodd i ni yn Saesneg. Ble oedd ein copi Cymraeg?”
Un arall sydd wedi cael profiad o gael gohebiaeth uniaith Saesneg gan yr Ombwdsmon yw’r Cynghorydd Jeff Smith o Aberystwyth a gafodd lythyr yn gofyn am dystiolaeth i mewn i ymchwiliad penodol.
“Ar ôl cael y llythyr, y peth cyntaf wnes i sylwi oedd ei fod wedi ysgrifennu ata i yn Saesneg a dwi wedi siarad â sawl un arall a gafodd lythyron gan yr Ombwdsmon ac roedd wedi ysgrifennu’n atyn nhw’n Saesneg hefyd,” meddai Jeff Smith wrth golwg360.
Penderfynodd ysgrifennu yn ôl i Nick Bennett yn gofyn iddo ysgrifennu yn ôl ato’n Gymraeg cyn iddo ymateb, ac ar ôl hynny, fe wnaeth ysgrifennu yn ôl yn Gymraeg.
“Mi wnaethon nhw ddweud ei bod nhw wedi ysgrifennu ata i yn Saesneg achos bod y gŵyn wreiddiol yn Saesneg, ac o achos hynny eu bod nhw’n gwneud yr ymchwiliad drwy gyfrwng y Saesneg.”
‘Dim digon’
Ond yn ôl Jeff Smith, doedd yr ateb Cymraeg ddim yn ddigon.
“Er fy mod i wedi cael llythyr yn Gymraeg (yn y pendraw), ddylwn ni ddim orfod gofyn amdano a dwi’n meddwl ei fod yn drueni mawr bod pobol eraill yn dal i gael yr un broblem,” meddai.
“O’r profiad dw i wedi’u cael â’r Ombwdsmon, dydi swyddfa’r Ombwdsmon ddim yn gweld y Gymraeg fel iaith weithredu.”
Dywed ei fod yn “siomedig” bod swyddfa’r Ombwdsmon “heb newid ei hagwedd tuag at y Gymraeg.”
“Os yw’r Ombwdsmon yn gweithredu’n Saesneg, sut all feirniadu Cyngor Cynwyd am wneud pethau’n Gymraeg?”