Llys y Goron Caerdydd
Mae achos yn erbyn cyn-blismon sydd wedi’i gyhuddo o dreisio merch mwy na 20 mlynedd yn ôl wedi dechrau yn Llys y Goron Caerdydd.
Mae John Hart, 61 oed, cyn-dditectif gyda Heddlu’r De a Gwent, sydd bellach wedi ymddeol, yn gwadu un cyhuddiad o dresio a saith cyhuddiad o ymosod yn anweddus.
Mae’r erlyniad yn honni bod Hart, o Nelson, Caerffili, wedi treisio’r ferch pan oedd hi tua 14 neu 15 oed pan oedd yn swyddog yr heddlu.
Yn ôl Martyn Kelly QC ar ran yr erlyniad, roedd Hart wedi cwrdd â’r ferch mewn tafarn.
Pan oedd hi tua 13 neu 14 oed roedd y ddau wedi dod yn ffrindiau, meddai, ac roedd y berthynas wedi datblygu a bu’r ddau yn cyffwrdd a chusanu.
Pan oedd hi tua 14 neu 15 oed roedd y diffynnydd wedi cael rhyw gyda hi, meddai Martyn Kelly.
Clywodd y rheithgor bod y ferch wedi mynd at yr heddlu ynglŷn â’r cam-drin honedig y llynedd a’i bod wedi cael ei holi gan swyddogion arbenigol am chwe awr.
“Roedd hi’n teimlo ei fod yn rhywbeth a oedd wedi cael effaith sylweddol ar ei bywyd ac roedd hi’n teimlo bod yn rhaid iddi ddweud wrth yr awdurdodau,” meddai Martyn Kelly.
Clywodd y llys bod John Hart wedi cyfaddef cael perthynas rywiol gyda’r ferch ond bod hynny wedi digwydd pan oedd hi’n 17 oed, ychydig cyn iddo gwrdd â’i wraig.
Mae’r achos yn parhau.