Mae un o nofelwyr mwyaf poblogaidd Cymru wedi cyhoeddi stori yn adrodd hanes merch gafodd ei halltudio i Awstralia yn y 19eg Ganrif.
I Botany Bay yw’r nofel gyntaf i Bethan Gwanas ei sgwennu i oedolion ers bron i ddeng mlynedd, pan gyhoeddodd hi Hi Oedd fy Ffrind.
Mae’r awdures yn adnabyddus am ei nofelau i blant, ac yn cyfaddef bod troi ei llaw at gynulleidfa hŷn unwaith eto wedi bod yn her.
“Do, mi ges i drafferth efo hon. Mae hi wedi bod yn fwy o waith na’r llyfrau eraill i gyd efo’i gilydd a deud y gwir!” cyfaddefodd Bethan Gwanas.
“Ond diolch byth, mae hi’n barod rŵan, a dwi’n gobeithio i’r nefoedd y bydd pobl yn ei mwynhau hi.”
Cosbau llym
Mae ei nofel ddiweddaraf yn un hanesyddol sydd yn seiliedig ar stori go iawn merch o’r enw Ann Lewis oedd yn byw yn Nolgellau yn 1833 a gafodd ei halltudio i ben draw’r byd ar ôl cael ei chyhuddo o ddwyn oddi ar ei chyflogwr.
Cafodd yr awdures ei hysbrydoli ar ôl clywed hanes 300 o ferched gafodd eu halltudio o Gymru i Botany Bay yn Awstralia rhwng 1787 ac 1852 mewn cyfres ar Radio Cymru.
Roedden nhw’n aml o gefndiroedd tlawd oedd wedi cael eu cyhuddo o ddwyn dim mwy nag ychydig o fwyd neu ddilledyn, ond roedd hynny’n ddigon i’w cosbi.
“Allwn i ddim peidio â dychmygu’r sgyrsiau, y boen a’r ofn rhwng y llinellau,” ychwanegodd Bethan Gwanas.
“Yn naturiol, a minnau’n un o’r ardal, cefais fy hudo gan hanes Ann Lewis o Ddolgellau. Cydiodd ei stori yn fy nychymyg yn syth, a bûm yn ceisio cael mwy o’i hanes. Ond dibynnu ar fy nychymyg fu raid yn amlach na pheidio.”
Mae I Botany Bay nawr ar gael yn y siopau, ac fe fydd y nofel yn cael ei lansio’n swyddogol yn T H Roberts yn Nolgellau ar 4 Rhagfyr am 6.30yh.