Pysgota cregyn bylchog
Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi y bydd yn ail-ddechrau ymgynghoriad pysgodfa cregyn bylchog ym Mae Ceredigion “oherwydd problemau technegol.”
Roedd y Llywodraeth wedi lansio ymgynghoriad ar gynllun i ganiatáu pysgota cregyn bylchog ar wely’r bae, ond roedd llawer wedi beirniadu’r broses gan honni bod y ffurflen ymgynghori ar-lein wedi cael ei ‘rigio.’
Roedd deiseb, gyda bron i 4,400 o enwau arni, wedi galw ar y Llywodraeth i ail-ddechrau’r broses ymgynghori.
Mae’n debyg bod y ‘nam technegol’ wedi bod yn newid atebion y sawl oedd yn llenwi’r ffurflen.
Dywedodd y Gweinidog Adnoddau Naturiol, Carl Sargeant: “Oherwydd problemau technegol efo’r ymgynghoriad pysgodfa cregyn bylchog ym Mae Ceredigion, rwyf wedi penderfynu ei ail ddechrau.
“Ymddiheuriadau i’r rhai sydd wedi eu heffeithio. Ail-lansir yr ymgynghoriad yn hwyrach yr wythnos hon. Bydd yn rhedeg am 12 wythnos.”
Deiseb yn galw am ‘achub Bae Ceredigion’
Daw’r ymgynghoriad wrth i 4,500 arwyddo deiseb yn galw ar Lywodraeth Cymru i ‘achub Bae Ceredigion’ ac ail-ystyried ei chynllun i ganiatáu pysgota cregyn bylchog ar wely’r bae.
Mae ymgyrchwyr yn poeni y byddai hynny’n gwneud drwg mawr i wely’r môr ac yn dinistrio cynefinoedd dolffiniaid, sydd i’w gweld yn aml ar ei lannau.
Bu Llywodraeth Cymru yn gweithio gyda Phrifysgol Bangor i gynnal astudiaeth fawr ar wely’r môr i weld faint o bysgota cregyn bylchog sy’n bosib ei wneud heb niweidio nodweddion cadwraeth yr ardal.
Roedd yr ymchwil yn cynnwys gwneud arbrawf pysgota mewn 12 gwahanol safle, drwy bysgota yn y safleoedd ar ddwysterau gwahanol. Roedd y canlyniadau wedyn yn cael eu cymharu â phedwar safle oedd heb gael eu pysgota o gwbl.
Yn ôl yr ymchwil, mae’r ardaloedd hyn, sydd o gadwraeth arbennig o dan ddeddf Ewropeaidd yn gallu gwrthsefyll rhywfaint o bysgota gwely’r môr.
“Fe ddysgom ni llawer o’r astudiaeth hon ac rydym yn gwybod bod Bae Ceredigion yn wydn iawn i bysgota cregyn bylchog ond rydym nawr yn gwybod yn union faint o bysgota sy’n cael ei ystyried yn gynaliadwy,” meddai Dr Gwladys Lambert oedd yn arwain y gwaith ymchwil.
Troi’r môr yn ‘anialwch llwyr’
Un sydd yn erbyn y cynllun arfaethedig yw’r naturiaethwr, Iolo Williams, sy’n dweud y byddai’n “lladd popeth” yn y môr ac yn ei droi’n “anialwch llwyr.”
“Mae tipyn o bysgota yn mynd ymlaen yn yr ardal ond mae hwnnw mewn ffordd gynaliadwy iawn, ond mae hwn yn wahanol dros ben, maen nhw mwy neu lai yn aredig gwely’r môr,” meddai wrth raglen y Post Cyntaf.
Mae’r biolegwr morol, Jean-Luc Solandt hefyd yn ei erbyn, gan ddweud bod astudiaeth Prifysgol Bangor yn astudio’r bywyd môr sy’n bodoli ar hyn o bryd yn unig yn hytrach na “be allai ymddangos neu ddod yn ôl”.
Gan gyfeirio at y ffaith bod pysgota cregyn bylchog ym Mae Ceredigion wedi cael ei ganiatáu tan 2009, mae’n dweud bod angen “degawdau” ar rai rhywogaethau i ddod yn ôl, neu hyd yn oed “canrifoedd.”
Mae’n dweud nad yw “pum mlynedd” yn ddigon i adfywio’r cynefin a gollwyd wrth ei bysgota cyn 2009.
“Mae’n bryd ei adael i ail-dyfu – ar ei gyflymder ei hun. Bydd cymdeithas yn gallu elwa o’r dull hwn o wella (ein cynefinoedd) yn hytrach na’u cadw. Bydd cael môr iachach a mwy cynhyrchiol yn rhoi mwy o ocsigen… mwy o gyfoeth biolegol.”