Mae Cadeirydd Awdurdod S4C wedi rhybuddio bod “dewisiadau anodd” o’u blaenau ar ôl iddi ddod i’r amlwg y bydd yn colli £1.7 miliwn dros y pedair blynedd nesaf yn dilyn Datganiad yr Hydref y Canghellor.
Fe ddywedodd Huw Jones, Cadeirydd Awdurdod y sianel y byddan nhw’n ceisio blaenoriaethu cynnwys a safon rhaglenni ond y byddai “toriadau o’r math yma” yn golygu “goblygiadau” ar gyfer y gwasanaeth a bod “heriau mawr yn ein wynebu ni.”
“Er y bydd pob ymdrech yn cael ei wneud i flaenoriaethu’r hyn sy’n cael ei wario ar gynnwys ac ar safon rhaglenni, mae’n anochel y bydd gan doriadau o’r math yma oblygiadau ar gyfer ystod ac amrywiaeth y gwasanaeth, a’r gallu i fanteisio ar gyfleoedd newydd,” meddai.
“Unwaith y bydd y darlun llawn yn glir, bydd trafodaethau’n cael eu cynnal gyda chynhyrchwyr a gyda staff i drafod y dewisiadau anodd sydd o’n blaenau.”
Toriad ‘sylweddol uwch’
Bydd yr arian mae’r sianel genedlaethol yn ei gael gan yr Adran Ddiwylliant, Chwaraeon a Chelfyddydau yn cael ei dorri rhwng 2016 a 2020 a bydd y toriadau cynyddol dros y cyfnod hwnnw yn dod a’r cyfraniad blynyddol i lawr o £6.7m i £5m erbyn 2019/20.
“Mae’r penderfyniad i dorri’r cyllid mae S4C yn ei dderbyn gan y Llywodraeth ganolog yn fater o siom i ni, yn enwedig gan ei fod yn doriad sy’n sylweddol uwch na’r toriad cyffredinol y mae’r adran wedi ei dderbyn,” meddai Huw Jones.
Dywedodd hefyd bod cyhoeddiad George Osborne heddiw yn rhoi pwyslais ‘tyngedfennol’ ar ganlyniad y trafodaethau maen nhw’n eu cael ag Ymddiriedolaeth y BBC wrth i ddyfodol ariannu S4C drwy ffi’r drwydded gael ei benderfynu.
Ar hyn o bryd mae S4C yn derbyn tua 90% o’i chyllid drwy ffi’r drwydded ac mae’r Ysgrifennydd Gwladol wedi awgrymu y dylai S4C ddod o hyd i arbedion tebyg i’r arbedion y disgwylir i’r BBC eu gweithredu.
Mae’r sianel eisoes wedi cael gostyngiad o £93 miliwn yn ei chyllideb dros y pum mlynedd diwethaf.