Ffoaduriaid o Syria
Bydd pedwar awdurdod lleol yn derbyn tua 50 o ffoaduriaid o Syria cyn y Nadolig, meddai’r Gweinidog dros Gymunedau a Threchu Tlodi Cymru.
Ond dywedodd Lesley Griffiths na fyddai’r Llywodraeth yn datgelu pa awdurdodau fydd yn eu derbyn, yr union niferoedd na phryd y byddan nhw’n cyrraedd “gan mai’r ffoaduriaid eu hunain sy’n bwysig yn hyn i gyd.”
Er bod Llywodraeth Cymru ddim am ddatgelu’r manylion, maen nhw wedi dweud y gallai’r awdurdodau sy’n derbyn y ffoaduriaid ddweud yn gyhoeddus eu bod nhw’n gwneud.
Un o’r rhai sydd eisoes wedi cyhoeddi y byddan nhw’n croesawu ffoaduriaid yw Cyngor Ceredigion, sy’n ail-gartefi 10-12 o bobol yn Aberystwyth.
Dal yn bwysig helpu er gwaethaf ymosodiadau Paris
Er bod yr ymosodiadau ym Mharis wedi ei “harswydo”, meddai Lesley Griffiths AC, mae’n bwysig bod pobol Cymru yn dal i helpu’r rhai sydd mewn angen,
“Roedd yn siom gweld rhai yn dewis beirniadu llywodraethau am gynnig cartrefi newydd i ffoaduriaid yn dilyn yr ymosodiadau hyn (ym Mharis),” meddai.
“Mae Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn fy sicrhau y bydd pawb sy’n dod yma wedi bod drwy brofion trylwyr yn y gwersylloedd cyn cael eu derbyn, a gallwn fod yn siŵr eu bod yn ffoaduriaid go iawn ac nad ydynt yn fygythiad i’n diogelwch.”
Yn ôl y Gweinidog, bydd y broses o ‘integreiddio’r’ ffoaduriaid yn dechrau yn syth ar ôl iddyn nhw gyrraedd, gyda phamffledi ‘Croeso i Gymru’ a “nifer o wasanaethau i’w cefnogi” sy’n bodoli eisoes.
Mae gan Lywodraeth Cymru Tasglu Ffoaduriaid Syria ar hyn o bryd i fynd i’r afael â’r argyfwng sydd wedi gweld bron i 9 miliwn o bobol yn ffoi o’r rhyfel cartref yn Syria.
Dywedodd y Gweinidog Cymunedau a Threchu Tlodi hefyd y byddai’r Llywodraeth yn sefydlu Cynllun Cyflawni dros Ffoaduriaid a Cheiswyr Lloches er mwyn cael ateb ‘hirdymor’ i’r argyfwng.
Monitro ‘tensiynau’ mewn cymunedau
Mae ‘Cydgysylltwyr Cydlyniant Cymunedol’ hefyd wedi cael eu gosod ledled Cymru er mwyn “monitro tensiynau” mewn cymunedau sy’n derbyn ffoaduriaid a mynd i’r afael ag unrhyw droseddau casineb.
“Dydw i ddim yn barod i oddef troseddau casineb o gwbl, ac rwy’n condemnio’n gryf unrhyw gam-drin ar Fwslemiaid yn sgil ymosodiadau fel y rheini rydym wedi bod yn dyst iddynt yn ystod y dyddiau diwethaf,” ychwanegodd Lesley Griffiths AC.
“Rwyf am anfon neges glir i unrhyw un sy’n dioddef casineb oherwydd lliw eu croen, eu ffydd neu eu statws mewnfudo, na fyddwn yn goddef hyn yng Nghymru.”
Bydd Bwrdd Gweithredu’r Tasglu yn cwrdd unwaith eto ym mis Rhagfyr ac Ionawr a bydd y Gweinidog yn rhoi diweddariad i Aelodau Cynulliad eto ar y sefyllfa ym mis Chwefror.