Yr Athro Yannis Pitsiladis Llun: BBC Cymru
Mae traean o’r athletwyr ym Mhrydain sy’n cael eu gwahardd am ddefnyddio cyffuriau yn chwaraewyr rygbi o Gymru, yn ôl ffigurau UK Anti-Doping.
Bydd rhaglen BBC Cymru Week In Week Out yn manylu ar y canfyddiadau heno sydd wedi codi pryder bod cymryd cyffuriau ym myd rygbi wedi mynd yn ‘rhy hawdd’.
Ym myd undeb rygbi, mae 10 chwaraewr o Gymru o 16 ar draws Prydain wedi cael eu henwi ar restr genedlaethol UK Anti-Doping.
Ac mae hanner o’r 14 o chwaraewyr cynghrair sydd wedi cael eu gwahardd ym Mhrydain yn dod o Gymru – sy’n gyfran uchel o ystyried cyn lleied sy’n chwarae’r gamp yng Nghymru.
Yn ôl un cyn-chwaraewr, sydd am aros yn ddienw, a oedd yn arfer chwarae ar lefel lled-broffesiynol, mae’r nifer sy’n cymryd cyffuriau yn y gamp “ar raddfa anferth.”
“Dwi’n meddwl bod pobol siŵr o fod yn ddall i’r (broblem) ac os bydd y gwirionedd yn dod allan, dwi’n meddwl bydd llawer mwy o chwaraewyr yn cael eu gwahardd rhag chwarae,” meddai wrth raglen Week In Week Out, gan gyfaddef ei fod wedi defnyddio cyffuriau yn y gorffennol.
Mae cyfanswm o 17 o chwaraewyr yn yr undeb ac yn y gynghrair wedi cael eu gwahardd, gydag olion o steroidau anabolig yn systemau’r rhan fwyaf.
Twyllo’r system yn ‘rhy hawdd’
Cafodd 100 o chwaraewyr o glybiau undeb rygbi eu holi gan y rhaglen ac roedd 15 wedi cyfaddef defnyddio rhyw fath o gyffur gwella perfformiad. Dim ond pump o’r 100 a wnaeth ddweud eu bod nhw wedi cael eu profi am gyffuriau yn y tair blynedd diwethaf.
Yn ôl yr arbenigwr gwrthgyffuriau, yr Athro Yannis Pitsiladis o Brifysgol Brighton, mae’n rhy hawdd ar hyn o bryd i chwaraewyr osgoi cael eu dal drwy gymryd cyffuriau sy’n gadael y corff yn gyflym.
“Gallan nhw fod yn eithaf hyderus na fyddan nhw’n cael eu dal pan fyddan nhw’n cael eu profi achos nad yw’r (cyffur) yn eu systemau rhagor.”
Ond mae’n dweud hefyd bod gwelliannau mewn technoleg wrth-gyffuriau a’r gallu erbyn hyn i gadw samplau am hyd at 10 mlynedd yn golygu y gall athletwyr sy’n twyllo’r system gael eu dal yn y dyfodol.
Mae prif weithredwr Undeb Rygbi Cymru, Martyn Phillips o’r farn bod y broblem mewn cymdeithas yn ogystal â rygbi a chwaraeon yn gyffredinol:
“Mae’n broblem mewn cymdeithas i ddechrau. Bydden i ddim yn eistedd yma a dweud nad yw’n broblem mewn rygbi oherwydd mae’r ffaith bod un chwaraewr yn cael ei wahardd yn un yn ormod yn fy marn i,” meddai wrth Week In Week Out.
“Felly’r her i ni, nid yn unig mewn rygbi ond mewn chwaraeon yn gyffredinol, yw ein bod ni’n gorfod tynnu’r (broblem) allan o’r gêm. Dwi ddim yn meddwl byddai hynny’n hawdd.”
Week In Week Out – Rugby: Dirty Steroid Secret? – Heno, BBC One Wales, 10.35pm