Llys y Goron Yr Wyddgrug
Mae’r achos yn erbyn dyn sydd wedi’i gyhuddo o beryglu awyrennau yn Ynys Môn wedi dod i ben, ac mae disgwyl i achos newydd ddechrau’r flwyddyn nesaf.

Fe gafodd John Arthur Jones ei ryddhau ar fechnïaeth heddiw yn dilyn gwrandawiad yn Llys y Goron Yr Wyddgrug, lle daeth i’r amlwg fod rhai o aelodau’r rheithgor yn adnabod y plismon cudd yr oedd disgwyl iddo roi tystiolaeth y tu ol i sgrin.

Fe gyhoeddodd y Barnwr y bydd achos newydd yn erbyn y gŵr 64 oed o Fodffordd yn dechrau ym mis Mehefin y flwyddyn nesaf, ar ôl cadarnhau argaeledd peilotiaid yr Awyrlu.

Mae John Arthur Jones yn wynebu 13 cyhuddiad o beryglu awyrennau’r Awyrlu drwy ddisgleirio golau llachar at yr awyrennau wrth iddyn nhw hedfan gyda’r nos o gwmpas maes awyr Mona.

Mae’r gŵr wedi pledio’n ddieuog i’r cyhuddiadau o beryglu awyrennau rhwng Tachwedd 2013 a Medi 2014.

Fe gafodd y rheithgor eu rhyddhau o’u dyletswyddau, ac mae disgwyl i’r achos newydd ddechrau ar 13 Mehefin.