Mae’r Gweinidog Addysg wedi croesawu argymhellion i geisio sicrhau gwasanaethau cerddoriaeth i blant Cymru.
Fe wnaeth Huw Lewis benodi’r arbenigwr, Karl Napieralla, cyn-gyfarwyddwr addysg yng Nghastell-nedd Port Talbot i gadeirio grŵp gorchwyl a gorffen i edrych ar sut i ddiogelu gwasanaethau cerdd yng Nghymru wrth gwtogi arian cyhoeddus.
Mae’r adroddiad, a gafodd ei gyflwyno ym mis Gorffennaf, yn cynnwys 15 o argymhellion, sy’n cynnwys sefydlu system gaffael genedlaethol er mwyn swmp-brynu offerynnau cerddorol yn rhatach a sicrhau mwy o waith partneriaeth rhwng awdurdodau lleol Cymru.
Mae hefyd yn sôn am greu ‘Gwaddol Cenedlaethol ar gyfer Cerddoriaeth’ er mwyn cael cyllid ychwanegol i bobol ifanc i gael mwy o gyfleoedd cerddorol yn ystod eu hamser yn y system addysg.
Mae ystyriaeth hefyd i roi treth wirfoddol ar docynnau cyngherddau lleol a fydd yn cyfrannu at yr arian hwn ac mae Cyngor Celfyddydau Cymru wedi comisiynu astudiaeth ddichonoldeb o waddol o’r fath ac mae hon yn cael ei chynnal ar hyn o bryd.
Dod o hyd i ‘ffyrdd newydd a chreadigol o weithio’
Mae Huw Lewis wedi cytuno i amryw fesurau yn yr adroddiad.
“Yn y cyfnod ariannol anodd hwn, mae’n rhaid inni sicrhau bod darpariaeth gerddoriaeth o ansawdd uchel yn parhau i fod ar gael i’n pobl ifanc,” meddai.
“Mae’r adroddiad hwn yn nodi bod yn rhaid inni ddod o hyd i ffyrdd newydd a chreadigol o weithio er mwyn sicrhau’r ddarpariaeth uchel honno ar gyllidebau llai, a chanolbwyntio ar hyrwyddo gwell cydweithredu rhwng awdurdodau lleol.”
Dywedodd hefyd y byddai’n sicrhau bod yr adroddiad yn cael ei fwydo i mewn i’r gwaith ehangach o ddatblygu cwricwlwm newydd i Gymru ac y byddai hyn yn ‘cynnwys cydweithio ag awdurdodau lleol i’w helpu i ddarparu addysg gerddoriaeth o ansawdd uchel’, yn unol â chynllun Celfyddydau Mynegiannol y cwricwlwm newydd.
“Dw i wedi ymrwymo i ddarparu cyfleoedd ar gyfer pobl ifanc i ddatblygu eu talent gerddorol. Mae hwn yn waith pwysig a dw i wedi gofyn am i adroddiad cynnydd gael ei gyhoeddi ar wefan Llywodraeth Cymru yn yr hydref 2016.”