Llys y Goron Caerdydd
Mae un o’r tri heddwas a oedd wedi’u cyhuddo o ddwyn £30,000 o sêff yn Abertawe, wedi’i gael yn ddieuog yn Llys y Goron Caerdydd heddiw.

Fe wnaeth y Ditectif Gwnstabl, Christopher Evans, 38 oed o Langennech wadu dwyn yr arian o sêff yn ystod cyrch yr heddlu mewn eiddo yn Abertawe yn 2011.

Heddiw, fe wnaeth y barnwr Eleri Rees roi cyfarwyddyd i’r rheithgor i’w gael yn ddieuog o’r ddau gyhuddiad yn ei erbyn.

Mae’r achos yn parhau yn erbyn y Ditectif Sarjant Stephen Phillips a’r Ditectif Gwnstabl Michael Stokes. Mae’r ddau yn gwadu’r cyhuddiadau.