Mae cytundeb wedi cael ei gyhoeddi i werthu rhan o gwmni dur a aeth i ddwylo’r gweinyddwyr, gan ddiogelu 79 o swyddi yn Wrecsam.
Dywedodd y gweinyddwyr PwC bod Caparo Wire yn Wrecsam, sy’n arbenigo mewn cynhyrchu weiren ddur, wedi cael ei werthu i Rcapital.
Dyma’r ail gytundeb i gael ei gyhoeddi gan PwC ar ôl i 76 o swyddi gael eu diogelu wythnos ddiwethaf pan gafodd Caparo Testing Technologies ei werthu.
Dywed PwC eu bod yn parhau i fod mewn trafodaethau gyda chwmnïau eraill ynglŷn â gwerthu rhannau eraill o Caparo Industries.
Cafodd Caparo Industries ei roi yn nwylo’r gweinyddwyr ar 19 Hydref ac roedd ofnau y gallai 1,700 o swyddi yn y diwydiant dur ym Mhrydain fod yn y fantol.