Parhau mae ymchwiliad Heddlu’r Gogledd yn dilyn gwrthdrawiad rhwng dau gar yn ardal Corwen, Sir Ddinbych dros y penwythnos,  pan gafodd pedwar dyn eu lladd.

Bu farw tri dyn o ardal Corwen, ac maen nhw wedi cael eu henwi’n lleol, sef Jacob Hocking, Jackson Edwards ac Adam Richards. Roedden nhw’n teithio mewn car Vauxhall Astra  a fu mewn gwrthdrawiad a char Vauxhall Zafira ar yr A5 yng Nghorwen am tua 11:40 ddydd Sadwrn.

Roedd dau ddyn arall o ardal Glannau Mersi yn teithio yn y Vauxhall Zafira. Fe gawsant eu cludo i ysbyty Stoke mewn hofrennydd, a bu farw un o’r dynion yn ddiweddarach.

Mae teuluoedd yr holl ddioddefwyr wedi’u hysbysu, ac mae Heddlu Gogledd Cymru yn parhau i ymchwilio i’r gwrthdrawiad.

Maen nhw’n galw ar unrhyw un a welodd y gwrthdrawiad i gysylltu â Uned Plismona’r Ffyrdd drwy ffonio 101 a dyfynnu’r cyfeirnod S178591.

Cafodd dynes yn ei 80au ei lladd  mewn digwyddiad arall yn y dref ddydd Gwener, ar ôl iddi fod mewn gwrthdrawiad a lori.