Mae cynllun yn cael ei lansio heddiw sy’n golygu y bydd yn rhaid i bob landlord gael trwydded cyn rhentu eu heiddo.

Dyma’r cynllun cyntaf o’i fath yn y Deyrnas Unedig, gyda’r Gweinidog Tai, Lesley Griffiths, yn dweud fod Cymru’n “arwain y ffordd o ran gwella safonau yn y sector rhentu preifat.”

Bwriad Rhentu Doeth Cymru yw atal landlordiaid ac asiantaethau twyllodrus rhag gosod a rheoli eiddo yng Nghymru, ac fe fydd rhaid i bob landlord preifat gofrestru â Rhentu Doeth Cymru.

Bydd rhaid iddyn nhw hefyd gofrestru eu heiddo, gan ddangos eu bod yn addas i feddu ar drwydded. Fel arall, gallant benodi asiant trwyddedig i reoli’r eiddo ar eu rhan.

Mae gan landlordiaid ac asiantaethau tai flwyddyn i gydymffurfio â’r gofynion newydd.

‘Cymru’n arwain y ffordd’

“Bydd y newidiadau’n atal landlordiaid twyllodrus rhag rheoli a gosod eiddo. Bydd hyn yn helpu i warchod tenantiaid yn y sector rhentu preifat – gan gynnwys myfyrwyr, unig-rieni a theuluoedd ifanc,” meddai Lesley Griffiths gan ddweud fod un o bob saith tŷ yng Nghymru yn cael eu rhentu’n breifat.

“Cymru yw’r wlad gyntaf yn y Deyrnas Unedig i roi system o’i math ar waith,” ychwanegodd gan esbonio mai’r nod yw “mynd i’r afael â landlordiaid sy’n rhoi enw drwg i’r sector.”

Bydd Rhentu Doeth Cymru hefyd yn galluogi cynghorau lleol i nodi’r eiddo sydd ar rent yn eu hardal.

Fe groesawodd y Cynghorydd Dyfed Edwards o Gyngor Gwynedd y cynllun gan ddweud ei fod yn “ychwanegiad da at yr opsiynau gorfodi sydd ar gael yn barod – a’r gobaith yw  y bydd yn annog mwy o gydweithio rhwng cynghorau lleol a landlordiaid ac asiantau i wella gwasanaethau i denantiaid yn y sector rhentu preifat yng Nghymru.”