Ffatri Celsa
Mae cyrff dau ddyn a gafodd eu lladd mewn gweithfeydd dur ddydd Mercher wedi cael eu symud oddi ar y safle yng Nghaerdydd.

Bu farw’r ddau yn dilyn ffrwydrad yng ngweithfeydd Celsa.

Yn dilyn y ffrwydrad, roedd dau ddyn ar goll – Peter O’Brien, 51 o Lanisien, a Mark Sim, 41 o Gil-y-coed yng Ngwent.

Dydy’r ddau ddim wedi cael eu hadnabod yn ffurfiol hyd yn hyn, ond mae eu teuluoedd wedi cael gwybod.

Mae nifer o bobol a gafodd eu cludo i’r ysbyty wedi’r ffrwydrad bellach wedi cael eu rhyddhau.