Mae dyn wedi marw yn dilyn gwrthdrawiad ar yr M4 yn Abertawe fore Sul.

Mae Heddlu’r De’n apelio am dystion i’r gwrthrawiad ar y draffordd rhwng cyffordd 45 Ynysforgan a chyffordd 44 Gellifedw yn oriau man y bore.

Bu farw gyrrwr car Ford Focus o ganlyniad i’w anafiadau.

Mae’r heddlu’n awyddus i siarad ag unrhyw un a welodd y gwrthdrawiad neu’r car yn cael ei yrru cyn y gwrthdrawiad.

Roedd y draffordd ynghau am hyd at bum awr wrth i’r heddlu gynnal ymchwiliad, ond mae hi wedi’i hail-agor erbyn hyn.

Mae’r heddlu wedi diolch i’r cyhoedd am eu hamynedd.