Roedd oddeutu 400 o bobol wedi ymgynnull yn Llangefni ddydd Sadwrn i wrthwynebu eithafwyr asgell dde oedd yn protestio yn erbyn ffoaduriaid.

Cafodd bonllefau’r hanner cant o eithafwyr, sy’n galw eu hunain yn ‘Infidels of North Wales’, eu boddi gan y dorf o rai cannoedd wrth iddyn nhw ganu ‘Calon Lân’.

Roedd yr ‘Infidels’ yn protestio yn erbyn yr hyn y maen nhw’n ei alw’n “Islameiddio” gwledydd Prydain ac oherwydd pryderon fod troseddwyr rhyw a phedoffiliaid yn byw mewn hostelau a phentrefi yn Ynys Môn.

Wrth annerch y dorf, dywedodd arweinydd Plaid Cymru wrth y cannoedd: “Rydym yn sefyll gyda chi, rydym yn sefyll yn erbyn gwleidyddiaeth casineb yn mynegi ei hun ar ein strydoedd.

“Un Gymru ydyn ni. Ni fyddwn yn caniatâu i ni gael ein rhannu.”

Ymhlith y siaradwyr eraill roedd Aelod Seneddol Llafur Ynys Môn, Albert Owen.

Cafodd y digwyddiad effaith sylweddol ar fusnesau’r dref wrth i nifer o siopau orfod cau eu drysau am y diwrnod, ac roedd cryn bwysau ar Heddlu’r Gogledd wrth i oddeutu 200 o blismyn gadw trefn ar y digwyddiad.

‘Swreal’

Dywedodd Dirprwy Faer Llangefni, Dylan Rees wrth Golwg360: “Roedd awyrgylch mor od yn Llangefni ddoe. Mae’r lle fel arfer mor brysur gyda’r farchnad.

“Roedd gyda chi dri grŵp – y gwrth-brotestwyr, yr ‘Infidels’ a phobol leol. Roedd rhai yn mynd heibio yn ysgwyd eu pennau, ddim yn gwybod beth oedd yn mynd ymlaen.

“Roedd yr heddlu ym mhob man a’r cyfan yn swreal.

“Rwy’n cytuno 100% efo egwyddorion y gwrth-brotest. Y biti oedd fod bron pob busnes yn Llangefni wedi gorfod cau.

“Ro’n i’n cerdded i lawr yr allt ac roedd y ‘shutters’ i lawr ar bron bob siop. Mae o wedi costio cymaint o bres, a busnesau wedi colli cymaint o bres ar adeg mor bwysig cyn y Nadolig.

Mewn datganiad, fe ddiolchodd i Heddlu’r Gogledd a’r Cyngor Sir am eu gwaith yn ystod y dydd.

Ond fe awgrymodd y dylai’r ‘Infidels’ dalu costau cynnal y digwyddiad yn hytrach na threthdalwyr.

Cwyn

Ychwanegodd Dylan Rees ei fod wedi gwneud cwyn swyddogol wrth yr heddlu oherwydd iaith anweddus yr ‘Infidels’.

Yn ei ddatganiad, dywedodd: “Ro’n i wedi ffieiddio oherwydd yr iaith a gafodd ei defnyddio ac yn ei chael yn gwbl annerbyniol fod rhywun yn gweiddi’r gair ‘F’ yn ystod eu rant, yn enwedig pan fo cynifer o blant yn bresennol.”

Dywedodd Heddlu’r Gogledd wrth Golwg360 nad oedden nhw’n gallu cadarnhau bod cwyn wedi cael ei gwneud.