Mae Heddlu’r De yn ymchwilio i ladrad yng nghartref dynes 97 oed yng Nghaerdydd, pan gafodd modrwyau eu dwyn oddi ar ei bysedd wrth iddi gysgu.

Digwyddodd y lladrad yn Rhiwbeina am oddeutu 1 o’r gloch fore Sadwrn.

Wrth ddihuno’r ddynes, mynnodd y lleidr ei bod hi’n rhoi gemwaith ac arian iddo.

Arhosodd y dyn nes bod y ddynes yn dod i lawr o’i hystafell mewn cadair esgyn grisiau cyn mynnu ei bod hi’n rhoi arian iddo.

Datgysylltodd y dyn ei ffôn, gan olygu bod rhaid iddi fynd allan i geisio cymorth.

Dywedodd yr heddlu fod y gymuned leol “wedi ffieiddio” a’u bod wedi casglu £100 i’w roi i’r ddynes.

Mae’r dyn yn cael ei ddisgrifio fel dyn ifanc gwyn, ac roedd yn gwisgo sgarff ddu, côt ddu a jeans.

Mae ymchwiliad ar y gweill, a dylai unrhyw un â gwybodaeth gysylltu â’r heddlu ar 101.