Mae’r heddlu’n ymchwilio ar ôl i leidr dorri i mewn i gartref hen wraig 97 oed yng Nghaerdydd neithiwr.
Roedd yr hen wraig yn cysgu yn ei gwely pan dorrodd y lleidr i mewn i’w chartref ar Stryd Pantmawr yn Rhiwbina a mynnu ei gemaith a’i harian.
“Roedd hwn yn ddigwyddiad brawychus yn erbyn hen wraig yn ei chartref ei hun,” meddai’r Ditectif Sarjant Chris Grey o CID Caerdydd.
“Fe wnaeth y dyn geisio tynnu’r modrwyau oddi ar ei bysedd ac wedyn fe wnaeth fynnu arian ar ôl iddi fynd i lawr y grisiau yn ei lifft.
“Wedyn fe wnaeth ddatgysylltu ei ffôn, ac fe fu’n rhaid iddi fynd allan i chwilio am help.
“Rydym yn cynnal ymchwiliad llawn i’r digwyddiad ac rydym yn gwneud popeth a allwn i gael hyd i’r sawl oedd yn gyfrifol.”
Caiff y lleidr ei ddisgrifio fel dyn ifanc gwyn, yn gwisgo sgarff du, anorac dywyll a jîns.
“Dw i’n pwyso ar unrhyw un sy’n adnabod y sawl sydd dan amheuaeth i roi gwybod inni er mwyn y ddioddefwraig oedrannus sydd wedi cael profiad mor frawychus,” ychwanegodd y Ditectif Grey.
Gellir galw’r heddlu ar 101 neu’n ddienw ar 0800 555 111 gan nodi cyfeirnod 1500431723.