Mae prisiau tai yn rhatach a mwy fforddiadwy yn Eryri nag yn unrhyw un o barciau cenedlaethol eraill Cymru a Lloegr.

Dyma’r unig barc cenedlaethol hefyd lle mae prisiau tai’n is na’r hyn ydyn nhw yn yr ardaloedd o’i gwmpas.

Er bod cyfartaledd pris tŷ yn Eryri – sef £165,840 – yn 6.2 gwaith cyfartaledd cyflogau lleol, mae’n llai na hanner y £332,755 y mae tai mewn parciau cenedlaethol yn ei gostio ar gyfartaledd.

Mae’r ffigur olaf yn 10.9 gwaith cyfartaledd cyflogau lleol drwy’r holl barciau cenedlaethol, o gymharu â phrisiau tai drwy Gymru a Lloegr yn gyffredinol, sy’n 7.6 gwaith cyfartaledd cyflogau.

Ar gyfartaledd, mae tai mewn parciau cenedlaethol yn costio £100,000 yn fwy na thai mewn ardaloedd cyfagos.

Fe wnaed yr arolwg o brisiau tai mewn parciau cenedlaethol gan Fanc Lloyds