Prif Weinidog Cymru, Carwyn Jones (llun: PA)
Mae disgwyl y bydd cytundeb rhwng Carwyn Jones a Jeremy Corbyn yn arwain at fwy o ryddid i blaid Lafur Cymru yn y dyfodol.
Mae datganiad ar y cyd sydd wedi cael eu gyhoeddi gan y ddau arweinydd yn argymell newidiadau i’r berthynas rhwng plaid Lafur Cymru a’r blaid Lafur yn ganolog.
“Mae’n hanfodol fod strwythur ein plaid ein hunain yn dal i fyny â newid cyfansoddiadol,” meddai Carwyn Jones. “Mae penderfyniadau ynghylch polisïau ac ymgyrchu eisoes yn fater i Lafur Cymru, a thrwy ymdrin ag anghysondebau yn ein rheolau, gallwn gychwyn ar drafodaeth fwy trylwyr rhwng ein pleidiau yng Nghymru, yr Alban a Phrydain am y dyfodol.”
Galw am gonfensiwn
Mae’r datganiad ar y cyd hefyd yn ailadrodd galwad Carwyn Jones am gonfensiwn cyfansoddiadol ar ddyfodol gwledydd Prydain:
“Mae llwyddiant plaid Lafur Cymru i’w briodoli’n helaeth i’r ffaith fod hunaniaeth y blaid fel corff ymgyrchu a llywodraethu gwahanol wedi datblygu a newid gyda realiti’r broses ddatganoli,” meddai’r datganiad.
“Mae’n bryd i’r blaid a’r wlad gymryd y cam nesaf ar y daith honno. Mae’r angen am gonfensiwn cyfansoddiadol yn gliriach nag erioed, a rhaid i’n plaid arwain y ffordd a dangos yr hyn y gall ein cenhedloedd ei gyflawni wrth weithio gyda’n gilydd.”