Andew RT Davies (llun o wefan y Ceidwadwyr)
Mae arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig yn addo y byddai’n symud adran o Lywodraeth Cymru i’r gogledd os bydd ei blaid yn llywodraethu ar ôl etholiad y Cynulliad y flwyddyn nesaf.

Wrth siarad mewn fforwm yn Llandudno, dywedodd Andrew RT Davies “fod rhaid i’r Blaid Lafur ddod â’r obsesiwn gyda Chaerdydd i ben.”

Yn ôl yr Aelod Cynulliad dros Ganolbarth De Cymru, mae yna “ddiwylliant ni yn erbyn nhw” yn cael ei feithrin gan y Blaid Lafur a dywed y byddai llywodraeth Geidwadol yn cydweithio gyda gwesion sifil i sicrhau fod “un o brif adrannau’r Llywodraeth yn cael ei adleoli I’r gogledd.”

Mae’r Ceidwadwyr hefyd wedi addo y byddai’n creu swydd newydd yn y cabinet a fyddai’n gyfrifol am ogledd Cymru.

Ychwanegodd: “Mae angen byrstio swigen Caerdydd a hynny’n barhaol … rwyf eisiau pontio’r rhaniad sydd wedi’I greu gan y Blaid Lafur. Fe ddylai Llywodraeth Cymru fod ar gyfer pob rhan o Gymru.”