Sally Holland (Llun Prifysgol Caerdydd)
Mae Comisiynydd Plant Cymru wedi galw unwaith eto am gael gwared ar yr hawl i rieni daro eu plant.
Ar Ddiwrnod Byd-eang y Plant, mae Sally Holland eisiau gweld Cymru’n arwain gweddill gwledydd Prydain trwy ddileu’r amddiffyniad cyfreithiol fod taro yn ‘gosb resymol’.
Roedd hi’n “rhyfedd iawn”, meddai, fod y gyfraith yma’n rhoi llai o amddiffyniad i blant – yn wahanol i’r rhan fwya’ o gyfreithiau sy’n ceisio rhoi mwy o ddiogelwch iddyn nhw.
Mae yna sawl ymgais wedi bod i newid y gyfraith yn y Cynulliad ond hyd yn hyn mae’r Llywodraeth wedi gwrthod gweithredu ac fe gollodd y bleidlais ddiwetha’ ym mis Mawrth eleni.
Meddai Sally Holland
“Mae’r ffaith ein bod ni’n caniatáu i blant agored i niwed gael eu smacio yn tanseilio ymrwymiad Cymru i hawliau plant,” meddai Sally Holland.
“Mae hwn yn fater o gydraddoldeb, o hawliau, ac o adeiladu ar ein diwylliant o barchu lle plant yn y gymdeithas yng Nghymru
“Mae gwledydd digon tebyg i’n gwlad ni, fel Seland Newydd, wedi gwneud hyn yn llwyddiannus. Gwaharddodd Iwerddon smacio fis diwethaf, heb fawr ddim ffwdan, a chonsensws cyffredinol.”