Tracey Woodford - llofrudiaeth ddychrynllyd (Llun trwy law Heddlu De Cymru)
Mae cyn-gigydd wedi ei ddedfrydu i dreulio o leiaf 28 mlynedd yn y carchar am lofruddio gwraig ganol oed a bwtsera’i chorff.

Roedd yr erlyniad  wedi gofyn  bod Christopher Nigel May, 50 oed, o Bontypridd yn gorfod aros dan glo am o leia’ 25 mlynedd.

Ar ôl i’r rheithgor ei gael yn euog mewn dim ond 50 munud, fe glywodd Llys y Goron Caerdydd ddatganiadau yn dweud am effaith ddwys y llofruddiaeth ar deulu Tracey Woodford, 47 oed.

Torri’r corff

Roedd y wraig fechan wallt coch wedi cael ei thagu i farwolaeth ar ôl gwrthod sylw rhywiol Christopher May yn ei gartref ym mis Ebrill eleni.

Fe glywodd y llys ei fod wedyn wedi cael rhyw gyda’i chorff cyn ei dorri’n ddarnau a chuddio’i phen mewn draen yn y dref.

Roedd Christopher May wedi gwadu llofruddiaeth gan honni ei fod wedi lladd Tracey Woodford i’w amddiffyn ei hun pan ymosododd hi arno ef.