Clawr y gyfrol
Mae golwg360 ar ddeall y bydd oedi cyn cyhoeddi cyfrol newydd y Prifardd Alan Llwyd am fod gwall sillafu ar y clawr.
Ar feingefn clawr ei gyfrol, Cerddi Alan Llwyd: yr Ail Gasgliad Cyflawn 1990-2015, sy’n cynnwys ffrwyth chwarter canrif o farddoni, roedd yr enw wedi’i argraffu yn ‘Lwyd’ yn hytrach na Llwyd.
Roedd disgwyl i’r gyfrol ymddangos ddoe ac, er bod cyfarfod i ddathlu lansio’r llyfr wedi’i gynnal neithiwr ym Mhontardawe, bydd yn rhaid i brynwyr aros ychydig rhagor cyn cael copi.
Y disgwyl o hyd yw y bydd y llyfr yn ymddangos cyn y Nadolig.
‘Rhai o’i gerddi mwyaf ysgytwol’
Mae’r gyfrol, yn ôl Alan Llwyd yn garreg filltir bwysig iawn yn ei yrfa ac mae’n cynnwys holl waith y Prifardd tros y cyfnod, rhai sydd wedi’u cyhoeddi eisoes a rhai sydd heb weld golau dydd o’r blaen.
Mae’n cynnwys cerddi i’w wyres, cywyddau marwnad i’w gyfeillion ac englynion ‘dirdynnol’, gan gynnwys un i’r bachgen bach o Syria, Alan Kurdi a gafodd ei olchi i’r lan ar arfordir Twrci.
Yn ôl yr Athro Tudur Hallam sy’n gweithio yn Academi Hywel Teifi ym Mhrifysgol Abertawe gydag Alan Llwyd, yn y gweithiau diweddara’ hyn y mae rhai o gerddi ‘mwyaf ysgytwol’ y Prifardd.
“Yn y cywydd marwnad i Gerallt Lloyd Owen…. mae yma ganu gwirioneddol rymus sy’n llwyddo i gyfuno’r personol a’r dynol-oesol ynghyd,” meddai.
“Wrth i feidroldeb eraill wasgu ar gorff, meddwl ac enaid y bardd, dyma ef ei hun, nid yn annhebyg i Guto’r Glyn yn ei henaint, yn canu rhai o’i gerddi mwyaf ysgytwol erioed.”