Deiagram y cynllunwyr a slogan y gwrthwynebwyr (o'u gwefannau)
Mae’r ymgynghori’n dod i ben heddiw ar gais i gael tynnu dŵr o un o rannau hardda’ afon Conwy.
Bwriad cwmni RWE Innogy yw codi gored er mwyn cynhyrchu ynni ychydig uwchben Rhaeadrau Conwy ond mae grwpiau lleol yn gwrthwynebu.
Yn ôl ‘Save the River Conwy’, fe fyddai’r datblygiad yn hyll, yn cynyddu peryglon ar yr afon ac yn amharu ar allu pobol eraill fel caiacwyr i ddefnyddio’r afon.
Yr ymgynghoriad
Mae’r asiantaeth amgylcheddol Cyfoeth Naturiol Cymru wedi bod yn cynnal ymgynghoriad ynglŷn â chais RWE Innogy i dynnu dŵr o’r afon.
Yn ôl y cwmni, fyddai hynny ddim yn digwydd ar adegau pan fydd llif yr afon yn isel ac maen nhw’n dweud y byddai’r cynllun £12 miliwn yn cynhyrchu digon o drydan at anghenion arferol mwy na 3,000 o dai.
Y gwrthwynebiad
Un o ddadleuon y gwrthwynebwyr, sydd hefyd yn cynnwys Cymdeithas Parc Cenedlaethol Eryri, yw fod yr afon yn atyniad twristaidd pwysig ac yn cynnwys sawl Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig – SSSI.
“Mae gwerth Afon Conwy’n fwy na’r budd posib o gynllun diwydiannol sy’n cynhyrchu ychydig o ynni ond yn cael effaith fawr ar yr amgylchedd,” meddai datganiad gan Save the River Conwy.