O wefan Gwasanaeth Tan ac Achub De Cymru
Mae’r gwasanaethau brys wedi cael eu galw at lannau Afon Nedd yma yn dilyn adroddiadau bod person wedi cwympo i’r dŵr.

Fe gadarnhaodd Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru eu bod wedi cael eu galw ychydig cyn un i  ardal Glyn-nedd wrth ochr ffordd yr A465 – Ffordd Blaenau’r Cymoedd.

Mae’r heddlu ac ambiwlans wedi bod wrth y safle hefyd, ac fe gafodd timau achub o Abertawe a Chaerfyrddin eu galw yno

Dyw’r awdurdodau ddim wedi cyhoeddi rhagor hyd yn hyn.