Rhan o wefan y cwmni
Mae Cyngor Caerdydd wedi cyhoeddi mai cwmni teuluol fydd yn codi 1,500 o dai yng Nghaerdydd dros y ddegawd nesaf.
Ac maen nhw wedi dweud eu bod yn disgwyl i tua 250 o bobol leol gael gwaith ar y cynllun a fydd yn digwydd mewn tri cham rhwng hyn a 2015.
Cwmni Wates Living Space fydd yn gyfrifol am y datblygiad, ac mae disgwyl i’r gwaith adeiladu ddechrau’r flwyddyn nesaf.
Mae ei bencadlys yn ne Lloegr ond mae ganddo swyddfa yng Nghaerdydd.
40% yn dai fforddiadwy
Fe fydd 600 o’r tai yn dod o dan reolaeth y cyngor, ond y disgwyl yw y bydd y 900 arall yn cael eu gwerthu ar y farchnad agored a ddim yn cael eu clustnodi’n benodol fel rhai ‘fforddiadwy’.
Yn ôl yr awdurdod lleol fydd yn buddsoddi £33m yn y cynllun, fe fydd yr holl dai sydd cael eu hadeiladu yn gynaliadwy ac yn effeithlon o ran ynni, gan “fynd i’r afael â thlodi tanwydd”.
“Gyda dros 10,000 o bobol ar hyn o bryd ar y rhestr aros am dai yn y ddinas, mae hwn yn gynllun hynod bwysig wrth ymdrin ag anghenion tai yng Nghaerdydd, meddai’r aelod cabinet dros Iechyd, Tai a Lles, Susan Elsmore.
Fe ddywedodd y byddai’r cynllun yn helpu prynwyr tro cynta’ ac yn adfywio ardaloedd o’r ddinas.