Llys y Goron Caerdydd
Mae dyn 50 oed wedi ei gael yn euog o lofruddio gwraig ym Mhontypridd ar ôl torri ei chorff yn ddarnau.

Roedd Christopher Nigel May wedi gwadu llofruddio Tracey Woodford, 47 oed, ond fe wrthododd rheithgor yn Llys y Goron Caerdydd â choelio ei stori.

Roedd wedi honni mai amddiffyn ei hun mewn ffrae yr oedd pan laddodd y wraig ganol oed, ond roedd yr erlyniad yn mynnu mai blys rhywiol oedd y tu cefn i’r llofruddiaeth.

Darnau o gorff

Roedd heddlu wedi dod o hyd i ddarnau o gorff Tracey Woodford yn y gawod ac mewn sach gefn mewn cwpwrdd yn fflat Christopher Nigel May ym Mhontypridd.

Fe ddaethon nhw o hyd i’w phen wedi ei guddio mewn draen ychydig gannoedd o lathenni o gae rygbi Pontypridd yn Heol Sardis.

Roedd y ddau wedi cyfarfod mewn tafarn ym Mhontypridd ar 21 Ebrill eleni ac fe gafodd Tracey Woodford ei thagu i farwolaeth rywdro y bore wedyn.