Daeth cadarnhad bod celciau o gyfnod Oes yr Efydd a ddarganfuwyd yn Sir Fynwy a Chasnewydd yn drysorau.

Cafodd dau gelc o’r Oes Efydd sy’n dyddio i 1000-800 CC a broetsh arian canoloesol sy’n dyddio i’r 13eg-14eg ganrif eu darganfod gan ddau ddyn yn defnyddio datgelyddion metel.

Cawsant eu darganfod gan Brendan Bishop wrth iddo ddefnyddio’i ddatgelydd metel yng Nghymuned Trefynwy, Sir Fynwy rhwng mis Mehefin 2016 a mis Ionawr 2017.

Ynghyd â’r celc oedd dau ddarn o gyllell efydd a dwy fwyell efydd.

Daeth y cadarnhad gan ddirprwy grwner Gwent, Naomi Rees. Ni chyhoeddwyd unrhyw ffigyrau ynglŷn â’u gwerth ariannol.

Mae Amgueddfa Mynwy yn gobeithio eu hychwanegu at ei chasgliad archeolegol.

Canfuwyd ail gelc o offer efydd gan Darren Jessett wrth iddo ddefnyddio’i ddatgelydd metel yng ardal Llanofer, Sir Fynwy ym mis Mai 2017.

Mae’r rhain yn cynnwys dwy fwyell efydd gydag addurn asen, darn o fwyell efydd plaen, darn o fwyell efydd.

Mae Amgueddfa’r Fenni yn gobeithio ychwanegu’r rhain at ei chasgliad.

Dywedodd Curadur Amgueddfeydd Sir Fynwy, Anne Rainsbury: “Celciau Oes yr Efydd yw un o ddirgelion mawr hanes, a cheir theorïau hynod ddiddorol am pam fyddai pobol wedi mynd ati’n fwriadol i gladdu casgliadau o fwyelli toredig, ynghyd â bwyelli cyfan ac offer eraill.

“Mae lleoliadau’r celciau hyn yn cael eu mapio’n ofalus er mwyn cynnig darn arall o wybodaeth yn y jig-sô hwn, felly mae’r canfyddiadau hyn yn bwysig iawn.

“Rydym yn falch iawn eu bod yn gallu cael gofod yn ein hamgueddfeydd ac yn helpu i adrodd straeon pobl oedd yn byw yn Sir Fynwy filoedd o flynyddoedd yn ôl.”