Llys Ynadon Llanelli
Mae pum unigolyn wedi ymddangos gerbron Llys Ynadon Llanelli heddiw mewn cysylltiad ag achos llofruddiaeth yn Llanelli.
Cafodd Phillip Robert Hudson-Jones, 45 oed, a Adrian Iwanowski, 20 oed, eu cyhuddo o lofruddio ar ôl i weddillion dynol gael eu darganfod mewn tŷ yn Pleasant View, Felinfoel, Llanelli.
Cafodd Adam Paul Goodwin, 26 oed, Jason Alec Roy Henderson, 43 oed a merch 17 oed hefyd eu cyhuddo o gynorthwyo troseddwr.
Mae’r heddlu yn credu mai dyn o wlad Pwyl oedd wedi cael ei ladd.
Fe fydd Robert Hudson-Jones a Adrian Iwanowski yn mynd gerbron Llys y Goron Abertawe yfory ac mae disgwyl i’r tri arall ymddangos yn y llys ar 23 Tachwedd.