Mae corff beiciwr modur trawsgwlad, oedd wedi bod ar goll, wedi cael ei ddarganfod yn y Bala.
Roedd teulu Ross Hall, 43 oed, o Accrington yn Swydd Gaerhirfryn wedi cysylltu â’r heddlu i ddweud ei fod ar goll nos Sul, 15 Tachwedd ar ôl iddo fethu a dychwelyd adref.
Roedd wedi bod yn gyrru ei feic modur mewn coetir yn ardal Llandderfel yn Y Bala.
Daeth yr heddlu a thimau achub o hyd i’w gorff yn ardal Llandderfel toc cyn 11yh nos Sul.
Er nad yw ei gorff wedi’i adnabod yn ffurfiol hyd yn hyn, dywed yr heddlu eu bod yn credu mai corff Ross Hall sydd wedi’i ddarganfod.
Mae ymchwiliad bellach ar y gweill ac mae’r crwner wedi cael ei hysbysu.
Mae teulu Ross Hall wedi cael gwybod am ei farwolaeth.