Mae ymchwiliad Heddlu’r Gogledd yn parhau ar ôl i weddillion dynol gael eu darganfod mewn ardal goediog ger Cerrigydrudion.
Cafodd yr heddlu eu galw i’r safle ar ôl i aelod o’r cyhoedd ddod o hyd i’r gweddillion am 8.43yh nos Sadwrn, 14 Tachwedd.
Mae ymchwilwyr a thimau fforensig wedi bod yn archwilio’r safle ac mae’r gweddillion wedi cael eu symud er mwyn cael eu harchwilio gan batholegydd.
Mae timau fforensig yn ceisio darganfod ers pryd mae’r gweddillion wedi bod yno.