Mae dynes wedi cael ei harestio wedi i ddau o bobol gael eu hanafu’n ddifrifol yn dilyn gwrthdrawiad rhwng nifer o geir yng Nghwm Rhondda.

Tarodd car yn erbyn chwech o geir oedd wedi’u parcio ar ymyl y ffordd yn Nhrealaw fore Sul.

Cafodd dynes arall oedd yn teithio yn y car ei hanafu’n ddifrifol.

Mae dau ddyn oedd yn teithio mewn car arall hefyd wedi cael eu harestio.

Cafodd y gwasanaethau brys eu galw am 7.45yb, a bu’n rhaid torri un person yn rhydd o gar ar Ffordd Ynyscynon.

Roedd un car wedi moelyd.

Cafodd y ddau sydd mewn cyflwr difrifol eu cludo i Ysbyty Brenhinol Morgannwg yn Llantrisant.

Mae’r heddlu’n apelio am dystion.