Chris Coleman, rheolwr tim pêl-droed Cymru
Mae swper tim p$l-droed Cymru gyda’r Prif Weinidog Carwyn Jones wedi’i ohirio fel arwydd o barch at y rhai hynny gafodd eu lladd yn yr ymosodiadau terfysgol yn ninas Paris neithiwr.

Mewn datganiad ar y cyd, mae Cymdeithas Bêl-droed Cymru a Llywodraeth Cymru yn dweud eu bod yn cydymdeimlo â phobol Ffrainc ac yn sefyll ysgwydd ag ysgwydd gyda nhw “wrth iddyn nhw ddod i delerau â digwyddiadau erchyll neithiwr”.

Roedd swper heddiw wedi’i drefnu er mwyn cydnabod llwyddiant tim pêl-droed Cymru yn cyrraedd rowndiau terfysgol pencampwriaeth Ewro 2016 yn Ffrainc y flwyddyn nesa’.