Joe Allen, un o sêr Cymru neithiwr
Fe gollodd Cymru o 3-2 mewn gêm gyffrous iawn yn erbyn Yr Iseldiroedd neithiwr.
Ond fe ddangosodd criw Chris Coleman ysbryd cryf a pharodrwydd i ymosod, mewn perfformiad oedd yn llawn pethau positif ar gyfer y dyfodol.
Dechreuodd Cymru’n gryf iawn, a wnaethon nhw ddim ildio o dan bwysau gan y crysau oren.
Cafodd y Dreigiau dipyn o hwyl yn y munudau cynnar yn ymosod lawr yr asgell cyn i ddryswch rhwng Ashley Williams a Joe Allen bron iawn ag arwain at gyfle gwych i Arjen Robben sgorio… ond fe lwyddodd Allen i adennill y bêl gan flaenwr Bayern Munich.
Joe Allen oedd yn serennu tros Gymru yn yr hanner cyntaf, a fo grëodd y cyfle gorau i’r cochion yn y chwarter awr cyntaf. Bwydodd Allen bêl berffaith at Tom Lawrence, un arall a gafodd gêm ardderchog wrth ddechrau am y tro cyntaf.
Gorffennodd Cymru yr hanner cynta’ gyda gôl yr oedden nhw’n ei haeddumn bendant diolch i arwr y cefnogwyr, Joe Ledley, oedd wrthlaw i achub embasas Allen wrth i’r golwr arbed ei gic o’r smotyn.
Robben, dair gwaith
Yn anffodus, methodd Cymru ag adeiladu ar hanner cynta’ cry’ ar ddechrau’r ail. Fe sgoriodd Arjen Robben o ymdrech unigol wych gan ei gwneud hi’n 2-1.
Dyna pryd y dechreuodd Coleman newid pethau, gan anfon yr eilyddion ifanc George Williams, Adam Henley, Paul Dummett ac Emyr Huws ar y maes.
Daeth y newidiadau ag ysbrydoliaeth newydd hefo nhw a llwyddodd Huws i ddod â Chymru’n gyfartal efo peniad gwych. Daeth Owain Fôn Williams ar y cae wedyn am ei gap cynta’ i Gymru, a’r cefnogwyr selog yn Stadiwm Dinas Caerdydd yn amlwg yn falch iawn o hynny.
Ond yn anffodus cafodd ei guro gan Robben yn ystod deng munud ola’r gêm, a’r sgôr yn 3-2 i’r Isalmaenwyr. Yr amddiffyn yn amlwg yn gweld eisiau Ashley William wedi iddo adael ar yr hanner, wrth i James Collins a Ben Davies gael eu dal gan bas dreiddgar.
Er y canlyniad fymryn yn siomedig, bydd Chris Coleman yn ddigon hapus a’r hyn a welodd heb ei brif ser gyda’r bechgyn ar y cyrrion yn dangos cymeriad i ddod yn ol ddwywaith yn erbyn tim o chwaraewyr da iawn.
Bydd hefyd yn falch iawn gyda pherfformiad rhai unigolion, Tom Lawrence, George Williams a Jon Williams yn dangos fod ganddo opsiynau ymosodol a Joe Allen yn dal y llygad yng nghanol y cae.