Caerdydd
Mae Arweinwyr Rhanbarth y Brifddinas, sy’n cynnwys arweinwyr 10 awdurdod lleol yn ne ddwyrain Cymru, wedi cyflwyno amlinelliad o’u cynigion ar gyfer bargen ddinesig i’r rhanbarth i Lywodraeth y DU.

Mae’r cynnig gan arweinyddion cynghorau Blaenau Gwent, Pen-y-Bont, Caerffili, Caerdydd, Merthyr Tudful, Sir Fynwy, Casnewydd, Rhondda Cynon Taf, Torfaen, a Bro Morgannwg, wedi cael hwb gan gytundeb gyda Llywodraeth Cymru a fyddai’n cyfrannu £580m tuag at y cynllun.

Byddai’r cynghorau yn rhoi £120 miliwn ac os fyddai Llywodraeth y DU hefyd yn rhoi £580 miliwn, byddai’r fargen werth hyd at £1.28 biliwn i’r rhanbarth.

Mae’r cynnig wedi cael ei gyflwyno cyn Adolygiad Gwariant Cynhwysfawr Llywodraeth y Canghellor George Osborne ar  25  Tachwedd.

‘Cyfle unigryw’

Byddai’r fargen ddinesig yn gofyn am weithio’n agos gyda Llywodraeth y DU, Llywodraeth Cymru a’r sector preifat ond mae arweinwyr y cynghorau’n credu ei fod yn gyfle unigryw i drawsnewid yr economi leol, i wella cynhyrchiant, creu swyddi newydd a lleihau diweithdra.

Dros yr ychydig fisoedd nesaf, bydd arweinwyr a phrif weithredwyr yr awdurdodau lleol yn ne ddwyrain Cymru yn gweithio gyda Llywodraethau’r DU a Chymru i ddatblygu cynnig mwy manwl.

Dywedodd y Cynghorydd Phil Bale, arweinydd Cyngor Dinas Caerdydd: “Mae hwn yn gam mawr ymlaen o ran cael bargen dinesig ar gyfer Rhanbarth Prifddinas Caerdydd.

“Mae’r partneriaid yn croesawu’r cam cadarnhaol gan Lywodraeth Cymru, ac yn gobeithio y bydd Llywodraeth y DU yn eu tro yn cyfateb y cyfraniad hwnnw.

“Byddai £1.28 biliwn yn golygu y gallwn wneud buddsoddiadau a fydd yn cael effaith sylweddol ar  economi’r ranbarth – a gallwn sicrhau hyn trwy weithio gyda’n gilydd fel 10 awdurdod gyda Llywodraethau Cymru a’r DU.”

‘Llais busnesau bach’

Mae’r cynnig a’r cyfraniad a gadarnhawyd gan Lywodraeth Cymru hefyd wedi cael ei groesawu gan sefydliadau busnes.

Dywedodd Emma Watkins, cyfarwyddwr CBI Cymru: “Mae’r de ddwyrain yn allweddol o ran tyfu economi a chyflogaeth yng Nghymru. Dylid mynd ar drywydd y cyfle i gael bargen ddinesig ac mae gweld awdurdodau lleol de ddwyrain Cymru yn symud tuag at agwedd strategol o ran twf economaidd yn calonogi CBI Cymru.”

Mae cadeirydd Ffederasiwn Busnesau Bach de ddwyrain Cymru, Mel Byles, hefyd yn croesawu’r cais.

Meddai: “Os yw rhanbarth Caerdydd am gyrraedd ei photensial economaidd llawn, yna mae angen i i’r sectorau preifat a chyhoeddus weithio’n agos gyda’i gilydd.

“Byddai’r fargen yn ein galluogi i wneud hynny, ac rwy’n falch bod llais busnesau bach yn cael ei glywed wrth i’r broses fynd yn ei blaen.