Mae cynlluniau ar y gweill i adeiladu amddiffynfa rhag llifogydd gwerth £25m i warchod arfordir de-ddwyrain Caerdydd.
Bydd yr amddiffynfa yn gwarchod y brifddinas wrth i lefel y môr godi yn sgil newid hinsawdd.
Fe fydd y cynlluniau i amddiffyn yr arfordir ar lannau afon Rhymni, a allai fod yn barod erbyn 2023, yn helpu i reoli perygl llifogydd ar gyfer tua 1,200 o dai ac adeiladau.
Hefyd, bydd yn atal deunydd o safle tirlenwi Ffordd Lamby rhag erydu’r môr ac yn diogelu seilwaith ffyrdd, archfarchnadoedd a safle Teithwyr Ffordd Rover am y can mlynedd nesaf.
Mae’r cynllun gan Gyngor Caerdydd wedi’i ddylunio i geisio sicrhau bod cyn lleied o darfu â phosibl ar gynefinoedd yr afonydd a blaendraethau arfordirol.
Fel rhan o’r cynllun, mae’r cynigion yn cynnwys gosod amddiffynfeydd meini ar y blaendraeth arfordirol ar ddwy ochr afon Rhymni, a chodi, cynnal a chadw amddiffynfeydd môr ar hyd afon Rhymni.
Llywodraeth Cymru fydd yn talu 85% o’r gost, a Chyngor Caerdydd yn darparu’r gweddill.
“Pwysig iawn” cymryd camau
“Y perygl mwyaf i Gaerdydd ar hyn o bryd yw llifogydd a lefelau’r môr yn codi oherwydd newid yn yr hinsawdd,” meddai Michael Michael, yr Aelod Cabinet dros Strydoedd Glân, Ailgylchu a’r Amgylchedd.
“Mae ein hamddiffynfeydd rhag llifogydd ar hyd y blaendraeth ger Ffordd Rover mewn cyflwr gwael a chawsant eu creu ar gyfer y tymor byr i ganolig yn unig, felly mae’n bwysig iawn bod camau’n cael eu cymryd nawr i ddiogelu’r rhan hon o’r ddinas.
“Bydd y cynllun amddiffyn yr arfordir yn gweld 100,000 tunnell o graig yn cael ei ddefnyddio ar y forlin, gan godi’r glannau’r afon y tu ôl iddi, yn ogystal â’r argloddiau wrth ymyl y briffordd.
“Bydd yn rhaid drilio dalennau dur 12 metr i mewn i graigwely’r afon er mwyn cynnal strwythur glan yr afon ac yna bydd y llwybr arfordirol yn cael ei adeiladu ar ben yr arglawdd a godwyd er mwyn cynnal mynediad ar hyd blaendraeth yr afon at ddefnydd y cyhoedd.
“Rydym yn gobeithio cwblhau’r cyfan erbyn 2023, gan ddiogelu cartrefi, busnesau a bywoliaethau am flynyddoedd i ddod.”
Bydd Cabinet Cyngor Caerdydd yn derbyn adroddiad ar y cynlluniau mewn cyfarfod ddydd Iau nesaf (Mehefin 17).
Pe baen nhw’n cytuno, byddai’r prosiect yn mynd allan at dendr ac mae disgwyl i’r broses honno ddechrau ym mis Gorffennaf.
Mae disgwyl i’r gwaith ar y safle ddechrau rhwng Chwefror a Mawrth 2022, ac i’r gwaith fod yn barod erbyn tua chanol 2023.