Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi cyllid ychwanegol o £32m sy’n golygu bod gwasanaeth Profi, Olrhain, Diogelu Cymru yn parhau tan fis Mawrth y flwyddyn nesaf.

Bron i flwyddyn ar ôl lansio’r gwasanaeth Profi, Olrhain, Diogelu yng Nghymru, mae’r ffigurau diweddaraf yn dangos bod swyddogion olrhain cysylltiadau wedi cyrraedd 99.7% o’r achosion positif oedd yn gymwys am gyswllt dilynol.

Yn ôl y Llywodraeth, llwyddon nhw i gysylltu’n llwyddiannus â bron i 95% o’r cysylltiadau agos oedd yn gymwys am gyswllt dilynol, gan roi cyngor iddyn nhw neu helpu i ddatrys eu hachosion.

Mae awdurdodau lleol hefyd wedi cymeradwyo mwy na 12,500 o daliadau cymorth hunanynysu i helpu pobol wnaeth aros gartref i leihau’r risg y byddai coronafeirws yn lledaenu.

“Eithriadol o effeithiol”

“Mae Profi, Olrhain, Diogelu wedi bod yn eithriadol o effeithiol o ran cefnogi pobl sydd wedi cael prawf positif a’u cysylltiadau wrth iddynt hunanynysu – a rhoi cyngor, arweiniad a chefnogaeth iddynt,” meddai Eluned Morgan.

“Mae hyn yn hanfodol i atal y feirws rhag lledaenu yn ein cymunedau.

“Mae blwyddyn wedi pasio ers inni sefydlu Profi, Olrhain, Diogelu fel gwasanaeth newydd sbon – ar raddfa a chyflymder a ddisgrifiodd Archwilydd Cyffredinol Cymru fel ‘eithriadol’.

“Mae llawer iawn o waith caled wedi digwydd ar draws GIG Cymru, awdurdodau lleol, y sector gwirfoddol a sefydliadau partner er mwyn creu rhaglen effeithiol tu hwnt i’n galluogi ni i ddiogelu Cymru.

“Gall pawb sydd wedi bod yn rhan o’r gwasanaeth fod yn hynod o falch o’u hymdrechion.

“Hoffwn ddiolch i bawb sydd wedi bod yn rhan o’r gwaith hwn, gan gynnwys Iechyd Cyhoeddus Cymru ac Iechyd a Gofal Digidol Cymru.

“Yn arbennig, hoffwn ddiolch i swyddogion olrhain cysylltiadau a’r bobol sy’n darparu gwasanaethau Diogelu sydd wedi rhoi cefnogaeth mawr ei angen i bobol ar adeg anodd iawn yn eu bywydau.

“Maent wedi gwneud llawer iawn mwy nag y mae teitl eu swydd yn ei awgrymu – maent wedi adnabod pobl agored i niwed ac wedi sicrhau cefnogaeth ychwanegol ar eu cyfer, boed hynny yn rhywun i sgwrsio â nhw, pecyn bwyd, neu gyswllt â gwasanaethau iechyd meddwl hanfodol.

“Wrth inni geisio atal lledaeniad amrywiolynnau newydd sy’n peri pryder, mae swyddogion olrhain cysylltiadau profiadol yn allweddol i wneud hyn yn effeithiol ac rydym yn parhau i fuddsoddi yn y gwaith hwn.”

Olrhain cysylltiadau manylach

Mae swyddogion olrhain cysylltiadau a chynghorwyr sy’n gweithio i’r gwasanaeth Profi, Olrhain, Diogelu bellach yn gwneud gwaith olrhain cysylltiadau manylach i fynd i’r afael â’r amrywiolynnau sydd ar led.

Maen nhw hefyd yn:

  • rheoli a rhoi sicrwydd i bron i 18,000 o deithwyr o wledydd ar y rhestr oren sy’n gorfod hunanynysu a chael profion;
  • ateb galwadau gan y cyhoedd am y rhaglen frechu, trefnu apwyntiadau a chysylltu ag unigolion sydd ddim yn dod i’w hapwyntiadau;
  • gweithredu fel canolfan gyswllt ar gyfer Gwasanaeth Tystysgrifau Brechu Cymru;
  • cysylltu â busnesau mawr a chyflogwyr lleol i’w hannog i dderbyn cynnig Llywodraeth Cymru o brofion llif unffordd (LFT) ar gyfer unigolion asymptomatig;
  • cysylltu â busnesau lleol, gan gynnwys eiddo trwyddedig, lletygarwch a chartrefi gofal i sicrhau bod ganddyn nhw’r manylion cyswllt cywir ar eu cyfer a chanfod a oes angen unrhyw gymorth arnyn nhw yn ymwneud â mesurau COVID-19, gofynion rheoleiddio a materion iechyd y cyhoedd eraill;
  • cefnogi safleoedd profi cymunedol.