Mae disgwyl i TUC Cymru sefydlu comisiwn ar ddyfodol datganoli a gwaith yng Nghymru yn dilyn pleidlais yng nghyfarfod eu Cyngres.

Daw hyn ar ôl i ymchwil ddangos yn ddiweddar bod cryn gefnogaeth ymhlith gweithwyr Cymru am ragor o bwerau datganoli.

Mae undebau wedi cytuno i sefydlu comisiwn newydd a fydd yn tynnu ar brofiad arbenigwyr cyflogaeth ym mhedair gwlad y Deyrnas Unedig.

Bydd yn rhoi ystyriaeth i rai o’r heriau mwyaf i weithwyr yng Nghymru a pha senedd ddylai ymateb iddyn nhw.

Fe fydd y comisiwn hefyd yn rhoi sylw i wendidau’r setliad datganoli presennol wrth fynd i’r afael â materion gwaith, gan gynnwys amodau gwaith ansicr, diffyg cydymffurfio â hawliau llafur a natur newidiol y byd gwaith.

Yn ogystal fe fydd yn ystyried a yw’r system sicrwydd cymdeithasol yn tanseilio’r ymdrechion i sicrhau marchnad lafur decach yng Nghymru.

Ymchwil

Yn ôl data YouGov a gafodd ei gomisiynu gan TUC Cymru, mae mwyafrif o weithwyr o blaid mwy o bwerau i Gymru ym meysydd iechyd, addysg a datblygiad economaidd.

Roedd:

  • 56% o blaid mwy o bwerau ym maes iechyd (29% yn erbyn)
  • 60% o blaid mwy o bwerau ym maes addysg (27% yn erbyn)
  • 53% o blaid mwy o bwerau ym maes datblygiad economaidd (30% yn erbyn)
  • 47% o blaid mwy o bwerau ym maes lles (37% yn erbyn)

Wrth ymateb i’r ymchwil, dywed Shavanah Taj, Ysgrifennydd Cyffredinol TUC Cymru, fod “yr amser yn iawn i ni ystyried a yw gweithwyr Cymru’n cael eu gwasanaethu orau gan y setliad datganoli presennol”.

“Gwelsom dros yr wythnosau diwethaf fod Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn ceisio cipio pwerau oddi ar Gymru,” meddai.

“Mae hyn yn peri bygythiad enfawr i allu Llywodraeth Cymru i gyflwyno gwell amodau gwaith i weithwyr.

“Ac er ben hynny, mae gyda ni effaith barhaus Brexit a refferendwm arall ar y ffordd yn yr Alban.

“Gyda chymaint o ansicrwydd, mae gennym ddyletswydd i’n gweithwyr i edrych yn ofalus ar ba setliad fydd yn sicrhau’r canlyniadau gorau iddyn nhw.”