Saunders Lewis
Bydd plac yn cael ei ddadorchuddio ar gartef Saunders Lewis ym Mhenarth yr wythnos nesaf.

Fe fydd yr achlysur, sy’n cael ei drefnu gan Blaid Cymru, yn nodi 30 mlynedd ers marw’r gŵr a oedd yn un o’i sylfaenwyr ac a fu’n llywydd arni rhwng 1926 a 1939.

Cyn-lywydd arall, Dafydd Wigley, fydd yn dadorchuddio’r plac yn 158 Westbourne Road bnawn dydd Iau, gyda chynrychiolwyr o Blaid Cymru a’r Eglwys Babyddol yn bresennol.

Fe fydd Dafydd Wigley hefyd yn traddodi darlith ar fywyd a gwaddol Saunders Lewis nos Iau yn ysgol gynradd Evenlode, Penarth am 7 o’r gloch.

Roedd Saunders Lewis yn un o ffigurau gwleidyddol a llenyddol mwyaf dylanwadol Cymru’r 20fed ganrif, a’i ddarlith Tynged yr Iaith yn 1962 a arweiniodd at sefydlu Cymdeithas yr Iaith Gymraeg.

Cynhelir yr achlysur gyda chefnogaeth perchennog presennol y tŷ, sydd wedi cadw rhai o gelfi Saunders Lewis yn ei hen stydi.

Cynhelir y seremoni ddadorchuddio yn 158, Westbourne Road ym Mhenarth ddydd Iau, Tachwedd 19 am 2 o’r gloch.