Gweithwyr dur yn protestio tu allan i'r Senedd fis diwethaf
Mae Gweinidog yr Economi, Edwina Hart yn cyfarfod â chwmnïau dur ac undebau llafur heddiw i geisio osgoi argyfwng yn y diwydiant.
Nod y cyfarfod yw darganfod ffyrdd o wneud y diwydiant yn fwy cystadleuol ar gyfer y dyfodol.
Fe fu Llywodraeth Cymru a’r diwydiant ar y cyfan yn galw droeon ar Lywodraeth Prydain i ostwng prisiau ynni yng ngwledydd Prydain.
Bellach, mae nifer sylweddol o swyddi ar draws y diwydiant yn y fantol.
Cytunodd Edwina Hart mewn uwch-gynhadledd ddiweddar yn Rotherham y byddai Llywodraeth Cymru’n cydweithio â Llywodraeth Prydain i ddatrys y sefyllfa.
‘Ar ymyl y dibyn’
Wrth siarad cyn y cyfarfod, dywedodd Edwina Hart: “Mae’n amlwg bod y diwydiant dur yng Nghymru ar ymyl y dibyn.
“Mae’r galw am ddur yn cael ei effeithio gan fewnforion dur o dramor yn llenwi’r farchnad ac mae Cymru dan anfantais fawr oherwydd y costau ynni uchel.
“Er bod llawer o’r cymhellion a allai ddylanwadu ar y diwydiant tu hwnt i reolaeth Llywodraeth Cymru, ryw’n ffyddiog y gallwn ni wneud llawer i helpu dur Cymru i oroesi.
“Does dim digon yn cael ei wneud ar lefel y Deyrnas Unedig felly mae’n rhaid inni weithredu yn awr i sicrhau dyfodol ein diwydiant dur sydd mor hanfodol os yw ein heconomi i ffynnu yn y dyfodol.
“Byddwn yn gwrando ar bryderon y diwydiant ac yn lobïo Llywodraeth y DU i gymryd camau ar frys cyn i ragor o swyddi gael eu colli yn y diwydiant dur yng Nghymru.”
Bydd y cyfarfod yn cael ei gynnal yn Nhŷ Hywel, Bae Caerdydd, ddydd Iau 5 Tachwedd.