Fe all y DU ychwanegu biliynau o bunnoedd at ei hincwm cenedlaethol drwy newid i system llywodraeth  ffederal, mae adroddiad newydd yn honni heddiw.

Meddai’r adroddiad gan y felin drafod, y Sefydliad Materion Economaidd, y dylai’r rhan fwyaf o bwerau Llywodraeth y DU gael eu datganoli i wledydd ac ardaloedd lleol.

Ychwanegodd y byddai cynllun y Llywodraeth i gyflwyno ‘Pleidleisiau Saesnig i Ddeddfau Saesnig’ (EVEL) yn San Steffan yn creu ansefydlogrwydd – gan nodi na fyddai hynny’n datrys y problemau sydd wedi eu hachosi gan ddatganoli.

Yn hytrach, mae’r adroddiad yn awgrymu y dylai cyfrifoldebau Llywodraeth y DU gael eu torri nôl i’r  lleiafswm – fel amddiffyn a materion tramor – a fyddai’n cael eu hariannu gan dreth ffederal benodol.

Byddai meysydd fel iechyd, addysg, plismona a lles yna’n cael eu datganoli i Lywodraethau’r Alban, Cymru a Gogledd Iwerddon – gyda gweithredwyr unigol mewn rhannau o Loegr – a phob un yn codi eu trethi eu hunain, meddai’r adroddiad.