Mae Liz Saville Roberts, arweinydd Plaid Cymru yn San Steffan a Chyfarwyddwr Ymgyrch Etholiadol y Senedd y blaid, yn dweud bod 22 o flynyddoedd o ddiffyg cynnydd cymdeithasol o dan Lafur yn gyfystyr â “bradychu” gwerthoedd y blaid honno.

Mae’n dadlau ei bod hi’n bryd cael “dechrau newydd”, arweinydd newydd, syniadau newydd ac egni newydd yng Nghymru.

“Gadewch i ni ddewis dyfodol newydd i beidio â glynu wrth y gorffennol a mwy o’r un peth,” meddai.

Yn ôl Liz Saville Roberts, Plaid Cymru yw’r blaid sy’n sefyll dros gynnydd cymdeithasol, a hynny yn sgil eu cynlluniau i gynnig prydau bwyd am ddim i ddisgyblion oed cynradd, gofal plant i bawb dros 24 mis oed, tâl gofal plant wythnosol i’r rhai sydd ei angen fwyaf, a thorri treth y cyngor i’r bobol dlotaf.

Wrth graffu ar gyfnod Llafur mewn grym, dywedodd fod gan cyfnod y blaid wrth y llyw “yn nodweddiadol o fwriadau da ond llywodraethu gwael”, a hynny wrth osod ond methu targedau ar faterion megis tlodi plant a newid hinsawdd.

Ychwanega na fyddai Aneurin Bevan, y gwleidydd Llafur enwocaf o Gymru, yn edrych yn garedig ar safiad Llywodraeth Llafur Cymru heddiw ar faterion cyfiawnder cymdeithasol fel prydau ysgol am ddim a datganoli lles.

‘Canol y ffordd’

“Mae dwy flynedd ar hugain o Lafur wrth y llyw yng Nghymru yn nodweddiadol o fwriadau da ond llywodraethu gwael,” meddai Liz Saville Roberts.

“Maen nhw yn gosod targedau clodwiw i ddileu tlodi plant a mynd i’r afael â’r argyfwng hinsawdd, dim ond i’w colli oherwydd eu diffyg uchelgais a’u cymhwysedd economaidd.

“Rhybuddiodd Aneurin Bevan fod y rhai sy’n sefyll yng nghanol y ffordd mewn perygl o gael eu rhedeg drosodd.

“Byddai Llafur yn gwneud yn dda i wrando ar y geiriau hyn yn hytrach nag eistedd ar y ffens, neu ddweud un peth a gwneud y gwrthwyneb ar faterion allweddol cyfiawnder cymdeithasol fel prydau ysgol am ddim a datganoli lles.

“Mae record Llafur ar bleidleisio yn erbyn prydau ysgol am ddim, pleidleisio yn erbyn ymchwiliad llifogydd a fyddai’n cael ateb hanfodol i’r rheini y mae eu cartrefi wedi’u difetha gan dywydd gwael, ac yn dadlau y dylai pwerau lles aros yn nwylo’r Torïaid yn San Steffan yn siarad cyfrolau am blaid sydd wedi anghofio sut i ddeddfu ei werthoedd, a bradychu’r union werthoedd hynny yn y broses.

“Nawr yw’r amser ar gyfer dechrau newydd.

“Gadewch inni ddewis dyfodol newydd i beidio â glynu wrth y gorffennol a mwy o’r un peth.

“Mae cynlluniau fforddiadwy Plaid Cymru i gynnig prydau ysgol am ddim i bob disgybl cynradd, gofal plant am ddim o 24 mis, taliad wythnosol i blant ar gyfer y teuluoedd sydd ei angen fwyaf ac mae toriad treth gyngor ar gyfer yr aelwydydd tlotaf yn profi mai ni yw’r blaid o gynnydd cymdeithasol yn yr etholiad hwn.

“Ni fydd ailethol Llywodraeth Lafur sy’n benderfynol o gadw Cymru ynghlwm wrth undeb anghyfiawn ac anghyfartal byth yn cyflawni’r newidiadau a fydd yn gwneud ein cenedl yn decach i bawb sy’n byw yma.

“Bydd Llywodraeth Plaid Cymru yn golygu Cymru gryfach – yn cael ei hofni a’i pharchu gan San Steffan, heb ei hesgeuluso a’i hanwybyddu. Bydd hyn yn golygu bargen well i Gymru – mwy o fuddsoddiad a mwy o bwerau.”