Fe wnaeth Boris Johnson weini hufen iâ yn y caffi a ddaeth yn enwog yn y gyfres deledu Gavin & Stacey, a gafodd ei ffilmio yn y Barri, wrth i’r pleidiau gwleidyddol ymgyrchu ddoe (dydd Llun, Mai 3) cyn etholiadau’r Senedd ddydd Iau (Mai 6).

Roedd prif weinidog Prydain yn y de i ymgyrchu ar ran Matt Smith, ymgeisydd y Ceidwadwyr ym Mro Morgannwg.

Roedd e’n gwisgo mwgwd y Ddraig Goch y tu ôl i’r cownter yng nghaffi Marco’s, gydag Andrew RT Davies, arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig, ymhlith ei gwsmeriaid.

Roedd yr ymweliad yn cyd-daro â llacio rhagor o gyfyngiadau Covid-19, gan gynnwys agor campfeydd, canolfannau hamdden a phyllau nofio, gyda gwersi a gweithgareddau dan do i blant a dosbarthiadau ffitrwydd i oedolion yn gallu cael eu cynnal eto.

Mae’r cyfyngiadau diweddara’n golygu bod Cymru bellach wedi gostwng i gyfyngiadau Lefel 3, a bydd yr adolygiad nesaf yn cael ei gynnal erbyn Mai 13.